Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005, ISBN 0110911202. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005. Y diwrnod penodedig 2. 30 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, ddod i rym -
(b) adran 63 (gofynion paratoi), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; (c) adran 72 (cyd-gynlluniau datblygu lleol); ac (ch) adran 73 (eithrio rhai sylwadau).
Darpariaethau canlyniadol
(b) adran 21 (newid neu ddisodli cynllun datblygu unedol); ac (c) adran 23B (cynlluniau datblygu unedol ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).
Darpariaethau trosiannol
(b) bydd darpariaethau Deddf 1990 y daw eu heffaith i ben o dan erthygl 3 yn parhau mewn grym.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe Cyngor Sir Caerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir y Fflint Cyngor Sir Gwynedd Cyngor Sir Fynwy Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Sir Ynys Môn (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau pellach Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf"), sef adrannau 62 a 63 (i'r graddau nad ydynt eisoes wedi'u dwyn i rym), 72 a 73, i rym ar 30 Ebrill 2005. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys i Gymru'n unig ac yn sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol ("cynlluniau") yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I Rhan II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990"). Effaith y Gorchymyn fydd galluogi'r awdurdodau cynllunio lleol hynny sydd wedi mynegi dymuniad i ddechrau gwaith ar baratoi eu cynlluniau i wneud hynny. Yr awdurdodau o dan sylw yw -
O ran yr awdurdodau cynllunio lleol eraill yng Nghymru (h.y. y rhai a ragnodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) bydd darpariaethau presennol Deddf 1990 yn parhau mewn grym am y tro. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 sy'n cael eu rhestru yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes: [1] 2004 p.5.back
ISBN 0 11 091120 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 4 May 2005 |