Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004, ISBN 0110910516. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 68(7)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gŵynion a wneir, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru[2], o dan adran 68 o'r Ddeddf i awdurdod perthnasol[3] ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Uchafswm rhagnodedig 2. Rhaid i'r ffi a bennir gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 68(1)(b) o'r Ddeddf beidio â bod yn fwy na £320. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 8 Rhagfyr 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion ynghylch gwrychoedd neu berthi uchel sy'n effeithio'n andwyol ar y mwynhad a gaiff cymydog o'i eiddo. Caiff perchennog neu feddiannydd eiddo domestig wneud cwyn os bod uchder gwrych neu berth a leolir ar dir y mae person arall yn berchen arno neu'n ei feddiannu yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff y perchennog neu'r meddiannydd o'r eiddo hwnnw. Rhaid gwneud cwyn i'r awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth wedi'u lleoli arno yn ei ardal a rhaid amgáu gyda'r gŵyn ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i uchafswm a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru). Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r uchafswm hwnnw. Notes: [1] 2003 p.38.back [2] Gweler adran 66 o'r Ddeddf ar gyfer ystyr "high hedge".back [3] Mae adran 65(5) o'r Ddeddf yn diffinio'r "relevant authority" fel yr awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth uchel wedi'u lleoli arno yn ei ardal. Mae adran 82 o'r Ddeddf yn diffinio "local authority", mewn perthynas â Chymru, fel y sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol.back
ISBN 0 11 091051 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 16 December 2004 |