Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004, ISBN 0110910486. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(3)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gŵynion am wrychoedd neu berthi[2] yng Nghymru. Y darpariaethau sydd i'w cychwyn 2. Daw Rhan 8 o'r Ddeddf (Gwrychoedd neu Berthi Uchel) i rym ar 31 Rhagfyr 2004. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 8 Rhagfyr 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("y Ddeddf") i rym, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi yng Nghymru, ar 31 Rhagfyr 2004. Mae Rhan 8 o'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion am wrychoedd neu berthi uchel sy'n cael effaith andwyol ar allu cymydog i fwynhau ei eiddo. Mae hefyd yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") wneud rheoliadau mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi yng Nghymru, i osod mwyafswm y ffï y gall awdurdod lleol ei chodi ar gyfer ymdrin â chais o dan y Ddeddf, ac i bennu'r gweithdrefnau y dylid eu dilyn pan wneir apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 71 o'r Ddeddf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym mewn perthynas â Chymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. TABL 1
TABL 2
Notes: [1] 2003 p.38.back [2] Gweler adran 66(6) o'r Ddeddf am ystyr "high hedge".back
ISBN 0 11 091048 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 15 December 2004 |