Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110910303. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Cartrefi gofal preswyl 2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992[2], yn lle Dosbarth A rhodder -
(b) a building or part of a building in which residential accommodation is provided under section 21 of the National Assistance Act 1948[4]); or (c) a hostel within the meaning given by paragraph 7 of Schedule 1[5] to the Act.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992 ("Rheoliadau 1992"). Mae Rheoliadau 1992 yn rhagnodi'r dosbarthau ar o anheddau y mae'r perchennog ac nid y meddiannydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas â hwy. Darparodd Dosbarth A yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hynny mai'r perchennog fyddai'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar gyfer cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio meddyliol neu hostel o fewn ystyron "residential care home, nursing home, mental nursing home" a "hostel", yn eu trefn, a roddwyd gan baragraph 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992. Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000"), drwy roi cyfeiriadau at "care home" ac "independent hospital" yn lle'r termau blaenorol "residential care home", "nursing home" a "mental nursing home". Mae erthygl 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi Dosbarth A newydd yn Rheoliadau 1992 yn lle'r Dosbarth A presennol. Mae'r Dosbarth A newydd yn cyfeirio at gartrefi gofal o fewn yr ystyr sydd i "care home" yn Neddf 2000, y mae person wedi ei gofrestru mewn perthynas ag ef yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno, at adeiladau neu rannau o adeiladau lle y darperir llety preswyl o dan adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac at hostelau o fewn yr ystyr sydd iddynt ym mharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992. Ar gyfer cartref gofal o fewn yr ystyr sydd i "care home" yn Neddf 2000, pan fydd person wedi cofrestru mewn perthynas â'r cartref yn unol â Rhan 2 y Ddeddf honno, y perchennog ac nid y meddiannydd fydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor. Pan nad oes neb wedi cofrestru felly, er y dylent fod wedi gwneud, y meddianwyr ac nid y perchennog fydd yn parhau i fod yn atebol am dalu'r dreth gyngor. Notes: [1] 1992 p.14. Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back [5] Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, gweler adran 116 a pharagraff 20 Atodlen 4 o'r Ddeddf honno. I weld y diffiniad o "hostel" gweler erthygl 6 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 (O.S. 1992/548) fel ag y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taliadwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2921 (Cy. 260)).back
ISBN 0 11091030 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 November 2004 |