Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004, ISBN 0110910184. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 56(1)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Gofal Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) O ran y Gorchymyn hwn -
(b) mae'n dod i rym ar 19 Tachwedd 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
Pennu gweithwyr gofal cymdeithasol
(b) sydd fel arfer yn cyflawni rhyw waith yng Nghymru neu'n disgwyl gwneud hynny; ac (c) y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, yn rhinwedd y gwaith hwnnw, ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol ar eu cyfer o dan adran 113(1) neu 115(1) o Ddeddf yr Heddlu 1997[5].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 56(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion adran 56(1). Notes: [1] 2000 p. 14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r "appropriate Minister", sy'n golygu'r "Assembly", mewn perthynas â Chymru: adran 121(1) o'r Ddeddf. Ystyr "Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: adran 5(1)(b) o'r Ddeddf.back [2] Gweler adran 56(4) o'r Ddeddf ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.back [3] Dyma'r ail grwp o weithwyr gofal cymdeithasol i gael eu pennu at ddibenion cofrestru gyda'r Cyngor o dan adran 56(1)(b). Gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant a bennwyd gan O.S. 2004/709 (Cy.76) oedd y grŵp cyntaf.back [4] Mae person yn dod o dan adran 55(2)(b) os yw'n cael ei gyflogi mewn cartref plant, cartref gofal neu ganolfan breswyl i deuluoedd neu at ddibenion asiantaeth gofal cartref, asiantaeth faethu neu asiantaeth fabwysiadu wirfoddol. Mae person yn dod o dan adran 55(2)(c) os yw'n rheoli sefydliad, neu asiantaeth, o ddisgrifiad a grybwyllir yn adran 55(2)(b). Mae person yn dod o dan adran 55(2)(d) os yw wedi'i gyflenwi gan asiantaeth gofal cartref i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd.back
ISBN 0 11091018 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 9 November 2004 |