Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004, ISBN 0110910125. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], dyddiedig Rhagfyr 2003, ynghylch adolygiad Cyngor Sir Powys o'r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach yn Sir Powys, ynghyd â'r cynigion a ffurfiwyd gan y Comisiwn; A Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi penderfynu gwneud y cynigion yn effeithiol heb eu haddasu; A chan fod mwy na chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; Yn awr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a Chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ag eithrio bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004 at y dibenion a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau 1976. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Newid i ardal gymunedol a newid canlyniadol i adran etholiadol ![]() ![]() (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gwneud yn effeithiol gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, a hynny heb eu haddasu. Effaith y cynigion hynny yw newid y ffin rhwng cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach, fel bod yr eiddo "White House" ym mhentref Groesffordd bellach yn rhan o Gymuned Llanfrynach. Newidir y ffin rhwng Ward y Santes Fair yng Nghymuned Aberhonddu (sy'n ffurfio adran etholiadol y Santes Fair) a Chymuned Llanfrynach, gan gynnwys cymunedau Glyn Tarell a Thal-y-bont ar Wysg (sydd oll yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tal-y-bont ar Wysg) fel ei bod yn cyd-fynd â'r ffin gymunedol newydd, fel y'i dangosir ar y map ffiniau. Adneuir printiau o'r map ffiniau a gellir edrych arnynt yn ystod oriau gwaith arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd. Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd), y cyfeirir atynt yn erthygl 1(2) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithredu gorchmynion megis y gorchymyn hwn. Notes: [1] 1972 (p.70).back [3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.back
ISBN 0 11091012 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 28 October 2004 |