Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110910109. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[2], ac yntau'n cael ei ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[4]) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran ddiwethaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a grybwyllir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 5 Tachwedd 2004. Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[5], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2). (2) Yn lle paragraff (3)(b)(ii) o reoliad 6 (cymhwyso dulliau dadansoddi) rhodder y paragraff a ganlyn -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes) sy'n gymwys i Brydain Fawr yn gyfan. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/126/EC (OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.78) ar y dull dadansoddi ar gyfer penderfynu ar gyfansoddion sy'n dod o anifeiliaid er mwyn rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol. 3. Mae'r Rheoliadau hyn yn adolygu Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 drwy ddarparu bod rhaid i'r weithdrefn a nodir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2003/126/EC gael ei defnyddio pan fydd archwiliad microsgopig yn cael ei gynnal at ddibenion penodol (rheoliad 2(2)). 4. Lluniwyd arfarniad rheoliadol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ac fe'i rhoddwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/126/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Uned Bwyd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN. Notes: [1] 1970 p. 40. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back [2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o'r Rheoliad EC mae "food law" yn rhychwantu bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.back [5] O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163); O.S. 2002/1797 (Cy.172); O.S. 2003/1677 (Cy.180); O.S. 2003/1850 (Cy.200) ac O.S. 2003/3119 (Cy.297).back [6] OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.78.back
ISBN 0 11091010 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 27 October 2004 |