Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004, ISBN 0110910001. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(b) mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac Atodlenni iddi[2].
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(ii) adran 14 ac Atodlen 1 (diogelwch deiliadaeth: ymddygiad gwrthygymdeithasol) (tenantiaethau isradd) i'r graddau y maent yn rhoi'r pwer i wneud rheoliadau; (iii) adran 16 (achosion meddiannu: ymddygiad gwrthgymdeithasol); a (iv) adran 17 (datganoli: Cymru);
(b) yn Rhan 9 (pwerau amrywiol) adran 91 (adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[3]: pwer arestio sydd ynghlwm wrth waharddeb).
1. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Bennod 3 o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996 (b) gan adran 13 yn effeithiol mewn perthynas ag -
(b) unrhyw waharddeb a roddir yn unol â'r cais hwnnw; neu (c) unrhyw bwer arestio sydd ynghlwm wrth unrhyw ddarpariaeth merwn gwaharddeb; neu (ch) unrhyw orchymyn llys arall a roddir, neu achos sy'n codi, mewn cysylltiad â'r cais hwnnw neu'r waharddeb honno.
2.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Tai 1985[5] a Deddf Tai 1988[6] gan adran 16 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw achos meddiannu ty annedd a ddechreuwyd cyn y dyddiad cychwyn.
(b) unrhyw waharddeb a roddir yn unol â'r cais hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mewn perthynas â Chymru, daw'r Gorchymyn hwn â rhai o ddarpariaethau Rhan 2 (Tai) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym, yn ddarostyngedig i'r arbedion yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Mae adran 13 yn disodli adrannau 152 a 153 o Ddeddf Tai 1996 gan ddarpariaethau newydd sy'n caniatáu i awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac ymddiriedolaethau gweithredu tai i wneud cais am waharddebion yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â'u rheolaeth o'u stoc neu sy'n effeithio ar y rheolaeth honno. Mae adrannau 14 a 15 yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchmynion israddio os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth ddiogel neu denantiaeth sicr tenant i ben a rhoi yn ei lle ffurf newydd ar denantiaeth isradd ac iddi lai o ddiogelwch deiliadaeth. Caiff adran 14 ac Atodlen 1 eu cychwyn yn awr i'r graddau ei bod yn rhoi pwer i wneud rheoliadau. Mae adran 16 yn diwygio disgresiwn y llys pan fydd yn ystyried hawliadau am feddiannu ty annedd (a osodir ar denantiaeth sicr neu denantiaeth ddiogel) a wneir ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pwysau digonol yn cael eu rhoi i effaith unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae adran 17 yn sicrhau bod holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n codi o'r diwygiadau i'r Deddfau Tai a grybwyllwyd, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'w cyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, mewn perthynas â Chymru, adran 91 sy'n caniatáu i awdurdod lleol wneud cais am bwer arestio fod ynghlwm wrth unrhyw waharddeb a geir o dan adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r gwaharddeb hwnnw yn un sydd i wahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cynnwys arbedion sy'n ymwneud â'r diwygiadau i Ddeddfau Tai 1985, 1988 a 1996 ac a gychwynnwyd gan y Gorchymyn hwn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2003 p. 38.back
ISBN 0 11 091000 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 4 October 2004 |