Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004, ISBN 0110909917. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cendlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 121(5) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004. Diwrnod penodedig 2. Y diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol ddod i rym, sef -
(b) adran 63(3)(a) a (7) (pŵer i ragnodi personau y dylid eu cynnwys mewn cynllun cynnwys y gymuned a gofynion paratoi cynlluniau); (c) adran 75 (canllawiau); (ch) adran 76(2) a (3), ond yn unig at bwrpas galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn rhagnodi'r materion y cyfeirir atynt yn yr is-adrannau hynny (adroddiadau monitro blynyddol); (d) adran 77 (pwerau gwneud rheoliadau); ac (dd) adran 78 (dehongli),
yw 1 Awst 2004. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Rhan 6 (Cymru) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") i rym ar y 1 Awst 2004, sef adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a) a (7), 75, 76(2) a (3), 77 a 78. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn sefydlu, yng Nghymru, system o gynlluniau datblygu lleol ("cynlluniau") yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Effaith y Gorchymyn fydd galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau ac i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru wrth iddynt baratoi ar gyfer y system cynlluniau datblygu newydd, a ddaw i rym maes o law. Mae adran 62(4) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, ffurf a chynnwys cynlluniau. Mae adran 62(5)(g) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, materion ychwanegol i'r rhai a restrwyd yn is-adran (5), y bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol dalu sylw iddynt wrth baratoi cynllun. Mae adran 63 yn darparu ar gyfer cynlluniau cynnwys y gymuned, a fydd yn datgan polisi awdurdod ar gynnwys personau penodol wrth arfer swyddogaethau'r awdurdod o dan Rhan 6. Mae adran 63(3)(a) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, pwy y dylai'r personau hynny gynnwys. Mae adran 63(7) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, nifer o faterion sy'n ymwneud â pharatoi cynlluniau. Mae adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir o dan neu yn rhinwedd Rhan 6, dalu sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 76(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod adroddiadau monitro blynyddol a wneir gan awdurdodau o dan is-adran (1) yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau. Mae adran 76(3) yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau monitro blynyddol gael eu gwneud ar yr amserau, i fod yn y ffurf ac i gynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau. Mae adran 77 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan Ran 6 ac, yn arbennig, i wneud darpariaeth mewn perthynas â'r materion a restrir yn adran 77(2). Mae adran 78 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 6 o'r Ddeddf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daeth y ddarpariaeth ganlynol o Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 i rym ar y dyddiad a nodir isod yn sgil Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1814 (Cy.199) (C.74)).
Notes: [1] 2004 p.5.back
ISBN 0 11090991 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 23 July 2004 |