Gorchymyn Deddf D © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf D Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael. r 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 105 o Ddeddf D r 2003[1] ("y Ddeddf"), ar ôl ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chychwyn adran 67 o'r Ddeddf, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf D r 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.Y Diwrnod Penodedig 2. - (1) 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym -
(b) adran 69 o'r Ddeddf (grantiau ar gyfer gwaith draenio a systemau rhybudd rhag llifogydd); (c) paragraff 42 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (mân ddiwygiadau canlyniadol) ac adran 101(1) o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef; (ch) Atodlen 9 i'r Ddeddf (diddymiadau a dirymu), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau D r 1991[2] ac adran 101(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[3]; a(d) adran 75 o'r Ddeddf (estyn pwerau wrth gefn awdurdod gorfodi).
(2) Caiff y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(b) i (d) eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru'n unig. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 67 o Ddeddf D r 2003; adrannau 69 a 75 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru; a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i rym.Mae adran 67 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 16A a 16B newydd yn Neddf yr Amgylchedd 1995. Mae adran 16A newydd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy orchymyn a wnaed drwy gyfrwng offeryn statudol, i wneud darpariaeth, yn ddarostyngedig i amodau, i bennu cyfanswm nifer yr aelodau, a'r dull o ddewis a phenodi cadeirydd ac aelodau eraill o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd Cymreig, ac i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfryw ddibenion atodol ag sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae adran 69 yn diddymu adrannau 147 i 149 o Ddeddf Adnoddau D r 1991 er mwyn dileu unrhyw anheuaeth y gellir talu grantiau draenio tir a rhybudd rhag llifogydd i'r Asiantaeth o dan adran 47 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.Mae Adran 75 yn diwygio Deddf Cronfeydd D r 1975 i estyn pwerau wrth gefn yr awdurdod gorfodi os na fydd ymgymerwr cronfa dd r yn cydymffurfio â rhai gofynion.Notes: [1] 2003 p.37.back
ISBN 0 11 090912 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 31 March 2004 |