Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004, ISBN 0110908821. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 [1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(b) adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 174 ac Atodlen 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac (c) yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn -
(ii) is-adrannau (1) i (5) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwyso i'r Goron adrannau 152 i 154, 164 i 171, paragraffau 1 i 7 o Atodlen 10 a pharagraff 16 o Atodlen 13; (iii) is-adran (6) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y mae'r amnewidiadau a wnaed gan yr is-adran honno'n ymwneud ag adrannau 42A a 42B o Ddeddf 1987; (iv) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 180 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) i (vi), adran 151 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym -
(ii) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r gwaith sydd yn gymwys wedi dechrau cyn 31 Mawrth 2004; (iii) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r landlord wedi rhoi neu arddangos yr hysbysiad angenrheidiol o dan adran 20 o Ddeddf 1985, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys, cyn 31 Mawrth 2004; (iv) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys y mae is-baragraff (v) yn gymwys iddo, mae'r landlord wedi rhoi hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991[8], Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993[9] neu Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995[10] cyn 31 Mawrth 2004; (v) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i waith sydd yn gymwys a wneir o dan gontract -
(b) sydd am gyfnod o ddeuddeg mis neu'n llai;
(vi) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, o dan gytundeb a wneir gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, cyn 31 Mawrth 2004, mae gwaith sydd yn gymwys yn cael ei wneud ar unrhyw amser yn y cyfnod yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ddau fis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Landlordiad absennol - tai lesddaliad 1. Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adrannau 148 a 149 effaith mewn perthynas â chais am ryddfreinio a wneir o dan adran 27 o Ddeddf 1967 cyn 31 Mawrth 2004. Diffiniad o daliadau gwasanaethau 2. Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 7 o Atodlen 9 yn gymwys i gostau a dynnir cyn 31 Mawrth 2004 mewn cysylltiad â materion y codir tâl gwasanaethau ar eu cyfer. Ystyr "management" yn adran 24 o Ddeddf 1987 3. Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004. Yr hawl i gaffael buddiant y landlord 4. Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 9 o Atodlen 9 a'r diddymiad yn adran 29 o Ddeddf 1987 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 29 o'r Ddeddf honno cyn 31 Mawrth 2004. Hawl tenant i gael archwiliad rheoli 5. Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 10 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 1993 cyn 31 Mawrth 2004. Rhwymedigaeth i dalu taliadau gwasanaethau 6. Ni fydd effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 155 a diddymiadau adran 19(2A) i (3) o Ddeddf 1985 ac o adran 83(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag -
(b) unrhyw achos sy'n ymwneud â thaliad gwasanaethau a drosglwyddir i TPL gan lys sirol,
cyn 31 Mawrth 2004.
(b) unrhyw achosion a drosglwyddir i TPL gan gyngor sir,
cyn 31 Mawrth 2004. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002") mewn perthynas â Chymru. Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, daw'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2(a) i (c) i rym ar 30 Mawrth 2004. Maent yn cynnwys:
(b) newidiadau i'r diffiniad o daliadau gwasanaethau a'r hawl i herio'r taliadau hynny (adrannau 150 a 155); (c) newidiadau i'r darpariaethau sy'n ymnweud â cheisiadau am wybodaeth yswiriant gan y landlord (adran 157); (ch) yr hawl i herio taliadau eraill o dan brydlesi a thaliadau mewn perthynas â chynlluniau rheoli ystadau (adrannau 158 a 159); (d) cymhwyso darpariaethau amrywiol landlord a thenant i dir y Goron (adran 172); (dd) ymestyn awdurdodaeth tribiwnlysoedd prisio prydlesi a chydgrynhoi'r darpariaethau sy'n ymwneud â'u gweithdrefn (adrannau 163 a 173 i 176); ac (e) diwygiadau a diddymiadau canlyniadol a wnaed gan Ddeddf 2002 mewn Deddfau eraill.
Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn erthygl 2(d), daw adran 151 o Ddeddf 2002 i rym hefyd ar 30 Mawrth 2004. Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer gofynion ymgynghori newydd mewn perthynas â thaliadau gwasanaethau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau canlynol Deddf 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Notes: [1] 2002 p.15.back [8] O.S. 1991/2680, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back [9] O.S. 1993/3228, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.back [10] O.S. 1995/201, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.back
ISBN 0 11090882 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 16 March 2004 |