Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004, ISBN 0110908759. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wybodaeth am ddisgyblion unigol sy'n ymwneud â disgyblion mewn ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yng Nghymru. (3) Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 1999[3]. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Personau Rhagnodedig
(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod.
(3) Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caiff cydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol -
(b) unrhyw bynciau TGAU; (c) unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch; (ch) unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol; (d) unrhyw bynciau GNVQ; ac (dd) unrhyw gwrs astudio a ddarperir i ddisgyblion mewn oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad neu gan gorff a ddynodwyd gan y Cynulliad o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[5] (heblaw cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).
(4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw -
(b) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.
(5) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) uchod yw -
(b) Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty's Chief Inspector of Education and Training in Wales; ac (c) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.
(6) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 1999. Maent yn rhagnodi i ba bersonau y gellir rhoi "gwybodaeth am ddisgyblion unigol" o dan adran 537A(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 (rheoliad 3). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi pa wybodaeth am ddisgyblion unigol y gellir ei rhoi gan "gydlynwyr gwybodaeth". Gan gymhwyso'r diffiniad o gydlynydd gwybodaeth yn adran 537A(9) i Gymru, cydlynydd gwybodaeth yw unrhyw gorff sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfrifol am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion. Mae'r wybodaeth y cânt ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â chyflawniad addysgol disgyblion yn unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri, unrhyw bynciau TGAU, unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch, unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol, unrhyw bynciau GNVQ ac unrhyw gwrs astudio a roddir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (rheoliad 3(3)). Notes: [1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090875 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 9 March 2004 |