Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003, ISBN 0110908465. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003 ac daw i rym ar 31 Rhagfyr 2003. (2) Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
n â'r gofynion ar gyfer colagen[6].
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
(b) bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol; (c) bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai; (ch) bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar safle'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon; a (d) bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei hangen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth o'r awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).
(2) Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliadau hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif penodol i'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw.
(b) unrhyw newid sylweddol, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran rhedeg y busnes hwnnw.
Awdurdodi sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl
(ii) bod dulliau o fonitro a rheoli'r fath bwyntiau yn cael eu rhoi ar waith a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd, (iii) bod samplau'n cael eu cymryd at ddibenion gwirio dulliau glanhau a diheintio a bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau a nodir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC, (iv) bod y samplau hynny'n cael eu ddansoddi fel sy'n briodol a hynny mewn labordy sy'n dderbyniol gan yr awdurdod, (v) yr hysbysir yr awdurdod bwyd ar unwaith pan fydd archwiliad o samplau mewn labordy neu unrhyw wybodaeth arall sydd yn nwylo'r perchennog yn datgelu bod yna risg ddifrifol i iechyd, a (vi) os bydd yna risg ar fin digwydd i iechyd, tynnir oddi ar y farchnad y cynhyrchion hynny a geir o dan amodau tebyg yn dechnolegol ac sy'n debygol o beri'r un risg;
(b) bod gan berchennog y sefydliad sytem ar waith i sicrhau y gwneir cofnod ar ffurf barhaol mewn cysylltiad â'r materion a nodir yn is-adrannau (i) i (iii) o baragraff (a) a chanlyniadau'r dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (iv) o'r paragraff hwnnw, a bod y cofnod yn cael ei gadw am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf a'i fod ar gael i'r awdurdod bwyd os gofynnir amdano;
(2) Pan ganiateir awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif adnabod unigryw i'r sefydlaid dan sylw.
(b) o unrhyw newid perthnasol, neu newid perthnasol a fwriedir, o ran gweithredu'r busnes hwnnw.
Atal awdurdodiadau a'u tynnu yn ôl
(b) ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2)(a) -
(b) nodi pob gofyniad, a bennir yn rheoliad 4(1) neu (3) neu reoliad 5(1) neu (3), fel sy'n briodol, ac y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle; (c) mewn perthynas â phob gofyniad a nodir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac (ch) datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.
Yr hawl i apelio
(b) os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r busnes a oedd yn cael ei redeg ar y safle yn cael ei redeg yno mwyach.
Cofrestru
(b) o bob awdurdodiad a dynnir yn ôl, a atelir neu a ddilëir gan yr awdurdod bwyd; (c) o bob hysbysiad a roddir o dan reoliad 6(2)(a); (ch) o unrhyw newid o ran perchnogaeth y busnes sy'n cael ei redeg ar safle sydd wedi'i awdurdodi o dan reoliad 4 neu 5; a (d) o unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad yn yr wybodaeth yn y gofrestr sy'n dod i sylw'r awdurdod bwyd.
(3) Rhaid i bob hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
(b) enw perchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; (c) unrhyw enw masnachu neu enw arall (ac eithrio enw'r perchennog) yr adnabyddir y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle wrtho; (ch) y Rhif adnabod a roddwyd o dan reoliad 4(2) neu 5(2); (d) ai fel canolfan gasglu, fel tanerdy ynteu fel sefydliad sy'n cynhyrchu colagen y mae'r safle wedi'i awdurdodi; ac (dd) y dyddiad y mae'r awdurdodiad a roddwyd o dan reoliad 4 neu 5 yn dod yn effeithiol a'r dyddiad y daeth atal yr awdurdodiad, ei dynnu'n ôl, neu ei ddileu yn effeithiol.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth gymryd camau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu, mewn perthynas â Chymru, Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC yngl n â'r gofynion ar gyfer colagen (OJ Rhif L260, 11.10.2003, t.21) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/503/EC (OJ Rhif L170, 9.7.2003, t.30) - "Penderfyniad y Comisiwn" - i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd.2. Mae darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu mewn perthynas â Phrydain Fawr yn ei chyfanrwydd gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'u diwygiwyd eisoes) - "Rheoliadau 1996". 3. Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC - a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen -
(b) drwy fewnosod yn yr Atodiad hwnnw ofynion newydd yn gysylltiedig â cholagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl.
4.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996, a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen er mwyn gwneud y diwygiad a ddisgrifir ym mharagraph 3(a) a'r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) yn effeithiol; mae'r rhain yn cyfeirio at -
(b) y deunyddiau crai y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu a'r amodau sydd ynghlwm wrth eu defnyddio; (c) cludo a storio deunyddiau crai o'r fath; (ch) y broses gynhyrchu; (d) camau priodol i'w cymryd i sicrhau bod sypau a gynhyrchir yn bodloni meini prawf penodol; ac (dd) pacio, storio a chludo (rheoliad 3(3)).
5.
Wrth weithredu gweddill y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b), mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud y canlynol a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen -
(ii) maent yn peri bod rheoliad 12 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 3(2)) yn dal heb fod yn gymwys i'r sefydliadau hynny a;
(b) maent yn rhoi'r p
(ii) sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl (rheoliadau 4 i 8).
6.
Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodwyd gan awdurdodau bwyd o dan reoliadau 4 a 5 ac mae'n ofynnol i awdurdodau bwyd roi i'r Asiantaeth wybodaeth benodol ynghylch awdurdodiadau a ganiatawyd ganddynt (rheoliad 9). Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [5] OJ Rhif L62, 15.3.1993, t.49.back [6] OJ Rhif L13, 18.1.2003, t.24.back [7] O.S.1996/3124; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2219(Cy. 159).back
ISBN 0 11090846 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 22 December 2003 |