Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907655. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(c), (d) ac (f), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach[2] ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2003. Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 2. - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995[4]) yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn. (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (ystyr "animal by-product") dileer y gair "direct".
(b) rhodder yr is-baragraff canlynol o flaen is-baragraff (a) -
(ii) during the course of the inspection did not show gross pathological lesions indicating disease communicable to man or animals;".
(6) Ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d) o baragraff (2) o reoliad 5 (esemptiadau) rhodder yr ymadrodd "the 1999 Order" yn lle'r ymadrodd "the 1992 Order."
(b) ym mharagraff (1) dileer y geiriau "sterilised or"; (c) dileer paragraff (2)(a); (ch) ym mharagraff (2)(b) -
(ii) ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder yr is-baragraff canlynol -
(d) dileer paragraff 2(c);
(ii) dileer yr ymadrodd "sterilised or, as the case may be,"; ac
(e) yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff canlynol -
(8) Yn rheoliad 7 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar dir ac mewn adeiladau sgil-gynhychion anifeiliaid) -
(b) ym mharagraff (1) -
(ii) dileer y geiriau "sterilised or"; a
(c) yn lle paragraffau (2) a (3), rhodder y paragraffau canlynol -
(3) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the animal by-products premises concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated.".
(9) Ym mharagraff (1) o reoliad 8 (rhewi sgil-gynhyrchion anifeilaidd ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau sgil-gynhyrchion, storfa oer, tir ac adeiladau torri, cyfleuster prosesu helgig neu ladd-dy) dileer yr ymadrodd "sterilised or". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny ("Rheoliadau 1995") wrth gael eu cymhwyso i Gymru ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer sterileiddio neu staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar gyfer symud y sgil-gynhyrchion hynny. 2. Effaith y diwygiadau yw na chaniateir sterileiddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o hyn allan. Mae staenio bellach yn ofynnol ym mhob achos, ac eithrio pan bennir hynny yn rheoliad 5(2), 6(2) neu 7(2) o Reoliadau 1995. Effaith y diwygiadau yw nad yw staenio'n ofynnol pan symudir sgil-gynnyrch anifail ar unwaith yn y dull a bennir yn rheoliad 6(4) neu, yn ôl y digwydd, 7(3) o Reoliadau 1995 i dir ac adeiladau a gymeradwyir o dan erthygl 7 o Orchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646, fel y'i diwygiwyd) i'w rendro yno neu i dir ac adeiladau eraill i'w hylosgi yn unol ag erthygl 10 o'r Gorchymyn hwnnw. 3. Dileir yr esemptiad o'r gofyniad o ran staenio neu sterileiddio y mae rheoliadau 6 a 7 yn ei osod ac a gynhwysir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau 1995 ac sy'n gweithredu o blaid sgil-gynhyrchion dofednod ac yn lle'r esemptiad hwnnw rhoddir esemptiad sy'n gweithredu o blaid pennau a thraed dofednod a fu'n destun archwiliad milfeddygol post mortem na ddangosodd, yn ystod yr archwiliad hwnnw, unrhyw anafiadau patholegol sylweddol a oedd yn nodi afiechyd y gellid ei drosglwyddo i ddyn neu anifeiliaid (rheoliad 2(4)). 4. Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaeth ddehongli Rheoliadau 1995 drwy roi diffiniad newydd sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 ac yn mewnosod diffiniad o "approved premises" yn lle'r diffiniad sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1992. Mae Rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiad i'r diffiniad o "animal by-product" yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 1995. 5. Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ohono wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau pellach o'r asesiad oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF1 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y'i darllenir ag adran 40(3) Deddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] (ch) O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656 ac O.S. 2002/1619.back [5] O.S. 1999/646, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1704.back
ISBN 0 11090765 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |