Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003, ISBN 0110907558. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002[1]. Enw, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso addasiadau trosiannol i Ddeddf Addysg 2002 mewn cysylltiad â'r ffaith bod darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd. Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi. Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth yngl n â dyfodiad i rym adrannau 27 a 28 sy'n galluogi cyrff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol ac adran 29 sy'n ymwneud â swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu. Nes y bydd adran 21 yn dod i rym, mae adran 28 i fod i gael effaith fel petai'n cyfeirio at y ddyletswydd sydd wedi'i chynnwys yn adran 38(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998), sef dyletswydd corff llywodraethu i hyrwyddo safonau uchel o ran cyrhaeddiad addysgol yn yr ysgol. Nes y bydd y diffiniad o "maintained school" yn adran 39 (sy'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir) yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau yn adrannau 27, 29(1) ac Atodlen 1 at ysgol a gynhelir i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at "maintained school" fel y'i diffinnir yn Neddf 1998, a hwnnw'n ddiffiniad nad yw'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir. Nes y bydd paragraff 1 o Atodlen 1 yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau at "governing body" ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan Ddeddf 1998.Mae Rheoliadau 4 i 6 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau yngl n â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999, Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau yngl n â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999 a Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn canlyn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2003 adran 201 sy'n gwneud darpariaeth yngl n â swyddogaethau AALl ynghylch darparu prydau bwyd ysgolion.Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002, yn y fath fodd ag i gyfeirio at "academïau" yn hytrach nag "academïau dinas". Mae hyn yn canlyn dyfodiad i rym adran 67 ar 26 Gorffennaf 2002, a honno'n adran sy'n darparu bod academïau dinas i'w hadnabod fel academïau. Dim ond yn Lloegr y caniateir i academïau gael eu sefydlu. Notes: [1] 2002 p. 32.back [3] Mae adran 28 i ddod i rym ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003, O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).back [4] Mae adrannau 27 a 29 ac Atodlen 1 (yn rhannol) i ddod i rym ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).back [5] Mae paragraff 3 o Atodlen 1 i ddod i rym yn rhannol ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).back [9] O.S. 2002/152 (Cy. 20).back [10] O.S. 2002/1663 (Cy. 158).back
ISBN 0 11090755 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 18 July 2003 |