Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003, ISBN 0110907515. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 14(3) a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a pharagraffau 1, 2, 3 ac 8 o Atodiad 4 iddi ac a freinir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003. Cymhwyso a Dehongli 2. - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y "Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[3] 3. Diwygio'r Prif Reoliadau Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn -
(ii) "(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)";
(b) yn rheoliad 48(1) hepgorir ", and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect"; a
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) (y "Rheoliadau") yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Yn benodol, mae rheoliadau 35(1) a 48(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath. Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effeith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill treth cyngor. Notes: [1] 1992 (p.14).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1992/613, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1995 (p.44); rheoliad 3 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Gorchymyn Atafaelu Enillion) (Cymru) 1992 (O.S. 1992/1741) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 3 i 12 a 15 i 20 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3008); rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/196); rheoliadau 3 i 8 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Rhif 2) 1993 (O.S. 1993/773) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 3 i 9 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/505); rheoliadau 3 i 6 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/22); erthygl 2 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Cymru) (Canlyniadau Newidiadau i Lywodraeth Leol) 1996 (O.S. 1996/675) a pharagraff 10 o'r Atodlen iddo; erthygl 30 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Bilio, Casglu a Gorfodi'r Dreth) 1996 (O.S. 1996/1880); rheoliad 2 o Reoliadau Tâl Cymunedol a'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Lwfans Ceisio Gwaith) 1996 (O.S. 1996/2405); rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/393); rheoliadau 3 i 8 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/295) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 2 i 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/534); rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1076 (Cy.52)); ac erthyglau 2(s) a 38 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/808 (Cy.89)). Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i Gymru.back
ISBN 0 11090751 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 July 2003 |