Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907493. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd a phennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, deuant i rym ar 23 Gorffennaf a byddant yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995[4]), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliadau hyn. (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "permitted sweetener", rhoddir y diffiniad canlynol -
(b) in the case of any sweetener other than sucralose, in the Annex to Directive 95/31/EC[5]."
(3) Rhoddir yr is-baragraff canlynol yn lle is-baragraff (c) o reoliad 2(3) -
(ii) in the case of cyclamic acid and its Na and Ca salts and saccharin and its Na, K and Ca salts, the maximum amount of free acid contained in the cyclamic acid and its Na and Ca salts or, as the case may be saccharin, and its Na, K and Ca salts present in that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use, measured in milligrams per kilogram or, as the case may be, per litre of the food.".
(4) Ym mharagraff (3) o reoliad 3 (gwerthu a defnyddio melysyddion) rhoddir yr ymadrodd "paragraphs (4) and (5)" yn lle'r ymadrodd "paragraph (4)".
Diwygiadau Canlyniadol
(b) diffiniad "additive" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[8]; (c) diffiniad "sweetener" yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[9]); (ch) diffiniad "sweetener" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[10]; a (d) yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[11]) -
(ii) yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol), Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â disgrifiad "ice cream" yng ngholofn 1.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123, fel y'u diwygiwyd eisoes) ("Rheoliadau 1995"), sy'n ymestyn i Brydain Fawr, drwy -
(b) egluro ystyr "maximum usable dose" fel y'i defnyddir mewn perthynas ag asid cylchamig a'i halwynau Na a Ca a sacarin a'i halwynau Na, K a Ca (rheoliad 2(3)); (c) cywiro gwall drafftio yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1995 (rheoliad 2(4)); ac (ch) diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau 1995 drwy'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5).
2.
Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y diffiniad newydd o "permitted sweeteners" a amnewidir gan reoliad 2(2), o'r Llyfrfa (TSO), Blwch SP 29, St Crispins House, Norwich NR3 1PD. Fel arall gellir cael copïau o'r we yn www.tso.com . Notes: [1] 1990 p. 16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1995/3123, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1477, O.S. 1997/814, O.S. 1999/982, O.S. 2001/2679 (Cy..220) ac O.S. 2002/330 (Cy.43).back [5] OJ Rhif L178, 28.7.95, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 1998/66/EC (OJ Rhif L257, 19.9.98, t.35), Cyfarwyddeb 2000/51/EC (OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41) a Chyfarwyddeb 2001/52/EC (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.18).back [6] O.S. 2002/330 (Cy.43).back [7] O.S. 1981/1063; O.S. 1983/1211 ac O.S. 1995/3123 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [8] O.S. 1984/1566; O.S. 1995/3123, O.S. 1995/3124 ac O.S. 1995/3187 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [9] O.S. 1992/1978; O.S. 1995/3123 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [10] O.S. 1995/3187, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r heoliadau hyn.back [11] O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090749 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 July 2003 |