Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003, ISBN 0110907140. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Nhachwedd 2002 ar 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig'. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1]. Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Newid Ffiniau Siroedd Wedi'u Cadw 2. Diwygir ffiniau'r Siroredd Wedi'u Cadw rhwng Clwyd a Gwynedd, De Morgannwg a Morgannwg Ganol, a Gwent a Morgannwg Ganol fel bod ardaloedd y Siroedd Wedi'u Cadw hynny fel y disgrifir hwy yn Erthygl 3. Ffiniau Newydd y Siroedd Wedi'u Cadw 3. - (1) Bydd Sir Clwyd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy. (2) Bydd Sir Gwynedd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd Ynys Môn a Gwynedd. (3) Bydd Sir Gwent Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Tor-faen, Casnewydd a Chaerffili. (4) Bydd Sir Morgannwg Ganol Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Tâf. (5) Bydd Sir De Morgannwg Wedi'i Chadw yn cynnwys sir a bwrdeistrefi sirol Caerdydd a Bro Morgannwg. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 1 Ebrill 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn cadw ardaloedd yr wyth Cyngor Sir blaenorol fel "Siroedd Wedi'u Cadw" gan addasu'r ffiniau mewn rhai achosion. Mae'r rhain yn gweithredu at ddibenion cyfyngedig mewn materion megis Arglwydd Raglawiaid a Siryfion. Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn ei 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig' (dyddiedig Tachwedd 2002) ac argymhellodd dri newid i ffiniau presennol y Siroedd Wedi'u Cadw, un yng Ngogledd Cymru a'r gweddill yn Ne Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr argymhellion hynny'n weithredol heb addasiad. Addesir ffin y Siroedd Wedi'u Cadw yng Ngogledd Cymru rhwng Gwynedd a Chlwyd i gynnwys y cyfan o Gonwy yn Sir Clwyd Wedi'i Chadw. Addesir ffiniau y Siroedd Wedi'u Cadw yn Ne Cymru rhwng Morgannwg Ganol a Gwent a Morgannwg Ganol a De Morgannwg fel a ganlyn. Addesir y ffin rhwng Morgannwg Ganol a Gwent i gynnwys y cyfan o Gaerffili yn Sir Gwent Wedi'i Chadw. Addesir ffin y Siroedd Wedi'u Cadw rhwng Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan y Gorchymyn i'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Llanhari a Phenllyn (Gorchymyn Rhondda Cynon Tâf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002 O.S. Rhif 654 (Cy.70)) a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2002. Notes: [1] 1972 p. 70.back
ISBN 0 11090714 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 10 April 2003 |