Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003, ISBN 0110907027. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989[2] a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[3] ddod i rym. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 2. - (1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn. (2) Yn lle rheoliad 52 (darpariaethau trosiannol) rhoddir y rheoliad canlynol
(2) Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ("person anghofrestredig") -
(b) os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod -
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu
(c) tan 1 Gorffennaf 2003 yn achos person anghofrestredig nad yw'n gwneud cais yn unol ag is-baragraff (a).
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os -
(b) yn nhyb yr ynad, os na wneir y gorchymyn y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu les rhywun.
(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys -
(b) bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r person anghofrestredig, a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig, o'r amser pan wneir y gorchymyn.
(5) Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl y digwydd) wedi ei wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 ac yn gymwys i'r person anghofrestredig.
(b) os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod -
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu
(c) tan 1 Gorffennaf 2003, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).
(8) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, sy'n bodoli yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(b) os caniateir cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod -
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu
(c) tan 1 Gorffennaf, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).
(10) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (9) oni bai -
(ii) mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a
(b) ei fod wedi ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynghylch y trefniadau, sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig.
(11) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddi."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel y caiff darpariaethau newydd eu rhoi i reoliad 52 sy'n gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau newydd: Mae rheoliad 52(1) - (5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sy'n parhau i redeg neu reoli asiantaeth faethu a oedd yn bodoli eisoes cyhyd â bod y ceisiadau am gofrestru'r asiantaeth honno wedi eu gwneud erbyn 1 Gorffennaf 2003. Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol pan ddeuant i rym. Oherwydd rheoliad 52(6) a (7) byddant hefyd yn gymwys i gorff gwirfoddol a oedd yn bodoli eisoes sy'n parhau i leoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989 ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei gofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (8) i (10) o'r rheoliad hwn yn galluogi awdurdod lleol i ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol a oedd yn bodoli eisoes sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Mae rheoliad 52(11) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir person a gymeradwywyd fel rhiant maeth gan wasanaeth maethu hefyd i gael ei gyflogi i weithio dros y gwasanaeth) mewn rhai achosion. Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sef yr "appropriate Minister". Diffinnir yr "appropriate Minister" yn adran 121(1). Mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, ac mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.back [3] O.S. 2003/237 (Cy.35).back [4] Gweler Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back
ISBN 0 11090702 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 7 April 2003 |