Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003, ISBN 0110907000. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 27(1), (3), (5)(a), (8), (9) a 154(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol - Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
(b) a gafodd gynnig cyflogaeth ac a'i derbyniodd cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b) na chafodd gynnig cyflogaeth neu na dderbyniodd gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol[3] (heblaw gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig).
Trosglwyddo swyddogaethau Awdurdodau Iechyd Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
(b) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng cyflogai y Cynllun Cyflogaeth Estynedig a Bwrdd Iechyd Lleol o'r fath neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr awdurdodau iechyd Cymreig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt yw -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.) O dan adran 27(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y p er i drosglwyddo iddo'i hun drwy orchymyn unrhyw un o swyddogaethau awdurdod iechyd Cymreig neu'r cyfan ohonynt. O dan adran 27(5)(a) o Ddeddf 1998, pan fo gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl swyddogaethau awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal gyfan y mae'r awdurdod hwnnw yn gweithredu mewn perthynas â hi, gall y Cynulliad ddiddymu'r awdurdod hwnnw.O dan adran 27(8) o Ddeddf 1998, caiff y Cynulliad wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau awdurdod iechyd Cymreig. Roedd y ddogfen strategaeth "Gwella Iechyd yng Nghymru" a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001 yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum awdurdod iechyd a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru o 31 Mawrth 2003 ymlaen, ac i ddirprwyo eu swyddogaethau i Fyrddau Iechyd Lleol. Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r pum awdurdod iechyd Cymreig i'r Cynulliad, ac yn diddymu'r pum awdurdod. Mae hefyd yn effeithio ar drosglwyddo staff penodol a gyflogir gan yr awdurdodau iechyd naill ai'n uniongyrchol i'r Cynulliad, neu o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig ("EES") i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Yn ystod y cyfnod o 12 mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, gellir trosglwyddo'r staff hynny a drosglwyddodd i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig ond na chawsant gyflogaeth arall, i swyddi mewn Bwrdd Iechyd Lleol neu yn y Cynulliad os cynigir swydd iddynt ac maent yn ei derbyn. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau nas trosglwyddwyd yn benodol i Fyrddau Iechyd Lleol. Bydd y swyddogaethau a drosglwyddir i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau) yn cael eu dirprwyo i Fyrddau Iechyd Lleol gan reoliadau a wnaed o dan adran 16BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49), fel y cafodd ei mewnosod gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17). Am gwmpas y swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20). Caiff Byrddau Iechyd Lleol eu sefydlu o dan orchymyn a wneir o dan adran 16BA o Ddeddf 1977, fel y'i mewnosodwyd gan adran 6 o Ddeddf 2002 (gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18). Notes: [1] 1998 p.38.back [2] Sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) - gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu)(Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).back [3] Sefydlir Byrddau Iechyd Lleol drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) - gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).back
ISBN 0 11090700 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 4 April 2003 |