Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003, ISBN 0110906675. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], a pharagraff 9 o Atodlen 1 a pharagraffau 1(4) a 4 o Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003. 2. Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001[3] eu diwygio fel a ganlyn. 3. Caiff rheoliad 2 ei ddiwygio drwy -
4.
Diwygir rheoliad 8 drwy -
(b) fewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1):
(ch) mewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (3):
5.
Diwygir rheoliad 9 drwy -
(ii) ar seiliau sy'n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person,
oherwydd bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles person dan 18 oed."; a
(b) amnewid y geiriau "rheoliad 5 neu 7 o Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003[6]" yn lle'r geiriau "rheoliad 28" ym mharagraff (2) (b).
6.
Diwygir Rheoliad 18 drwy -
(b) y cyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) pan ddaw'r athro neu'r athrawes unwaith eto yn gymwys ar gyfer cofrestru ar ei ddiwedd (yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag unrhyw amodau)";
(b) ym mharagraff (6) hepgor yr "a" ar ddiwedd is-baragraff (a)(v) a mewnosod y canlynol ar ei ôl -
(c) mewnosod ym mharagraff (6)(b) ar ôl y geiriau "gyflogwr presennol neu ddiwethaf" y geiriau "a, lle bo hynny'n berthnasol, asiant".
7.
Ar ôl rheoliad 21 mewnosodir y rheoliad canlynol -
21A. - (1) Gall person y mae gorchymyn atal wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor i amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn. (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais. (3) Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn. (4) Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ('Rheoliadau 2001'). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, sef corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu tuag at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon er budd y cyhoedd. Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn darparu bod rhaid i'r Pwyllgor a fydd yn delio ag achos yn erbyn aelod o'r Cyngor beidio â chynnwys aelod arall o'r Cyngor ac i ddarparu ar gyfer y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor o'r fath. Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y pwerau newydd i roi cyfarwyddyd yn Neddf Addysg 2002 ac er mwyn cyfeirio at Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003. Mae Deddf Addysg 2002 yn cyflwyno pwer i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru osod amodau ar unrhyw orchmynion atal y mae'n eu gwneud yn dilyn achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i orchymyn atal gofnodi unrhyw amodau y mae angen i athro neu athrawes gydymffurfio â hwy, ac i'w gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgor gynnwys yn yr hysbysiad o'r gorchymyn disgyblu a gyflwynwyd i athro neu athrawes esboniad o'r hawl i wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut i wneud hynny. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â'r dull o wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut yr eir ati i ddelio â cheisiadau o'r fath. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ychwanegu asiantaeth gyflenwi lle bo hynny'n berthnasol at y rhai y mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiad o orchymyn disgyblu iddynt. Notes: [1] 1998 p.30. Mae Adran 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru trwy rinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) o 30 Rhagfyr 1998 ymlaen yn achos Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. Diwygir paragraff 1(4) o Atodlen 2, ac amnewidir paragraff 4 o Atodlen 2, gan baragraff 86(2) o Atodlen 21, a pharagraff 12 o Atodlen 12, i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), yn eu trefn. Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back [3] O.S. 2001/1424 (Cy. 99).back [4] Mewnosodwyd adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32)back
ISBN 0 11090667 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 12 March 2003 |