Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 11) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 11) (Cymru) 2003, ISBN 0110906624. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 11) (Cymru) 2003. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(b) adran 60(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â rheolau'r Cyngor o ran y dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth arall sydd i'w dangos gan y rheiny sy'n gwneud cais i gofrestru ac nad yw eisoes mewn grym; (c) adran 104(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i -
(ii) adran 104(3)(a) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 115(5)(eb) yn Neddf yr Heddlu 1997.
(3) 30 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym darpariaethau canlynol y Ddeddf -
(b) adran 117(2) ac Atodlen 6 iddi i'r graddau maent yn ymwneud â Deddf Fabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999.
(4) 1 Mehefin 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 56, 58 i 60, 62, 64(2) i (5), 65, 68 a 69 o'r Ddeddf i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000. Mae rhai o'r darpariaethau hyn, a ddygir i rym ar 1 Mehefin 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru, mewn perthynas â Chymru, gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol. Yn ychwanegol, dygir darpariaethau eraill i rym ar ddyddiad cynharach, 1 Ebrill 2003, er mwyn caniatáu i geisiadau i gofrestru fel gweithwyr cymdeithasol gael eu gwneud i'r Cyngor Gofal o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2003 newidiadau penodol i Ddeddf Fabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 o ganlyniad i weithredu ar y dyddiad hwnnw y darpariaethau yn Rhan II o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan '(e)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan '(f)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24) a chafodd y rhai a ddilynir gan '(ff)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31).
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, ac mewn perthynas â Lloegr hefyd, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).
Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70). Notes: [1] 2000 p.14. Rhoddwyd y pwerau i'r Gweinidog priodol. Mae "appropriate Minister" yn golygu'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a.121(1) o'r Ddeddf). Ystyr "Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a.5(b) o'r Ddeddf).back
ISBN 0 11090662 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 11 March 2003 |