Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003, ISBN 0110906888. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 175, 323 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac adrannau 40, 89(1), 91(1) a 93(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[2] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y rheoliadau hyn -
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
(b) y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl; (c) y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig am yr apêl at y Cynulliad Cenedlaethol i gael eu hanfon iddo; ac (ch) y sail, neu'r seiliau, o dan adran 174(2) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(1) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ôl y digwydd, dros apelio.
Hysbysiad i bartïon sydd â buddiant
(b) meddiannydd eiddo yn yr ardal lle lleolir y tir y mae'r hysbysiad gorfodi yn berthnasol iddo; ac (c) personau eraill yr effeithir arnynt ym marn yr awdurdod cynllunio lleol gan dorri ar y rheolaeth gynllunio neu fynd yn groes i reolaeth adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth ac a honnir yn yr hysbysiad gorfodi.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys -
(b) y dyddiad dechrau; (c) y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl; (ch) disgrifiad o'r torri honedig ar y rheolaeth; (d) yn achos apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o'r Ddeddf Gynllunio, datganiad sy'n nodi'r materion ychwanegol a bennir yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau; (dd) y sail, neu'r seiliau, o dan adran 174(2) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(1) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ôl y digwydd, dros apelio; (e) datganiad y gellir anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei fod yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau a'r cyfeiriad y dylid anfon y sylwadau hynny iddo; (f) datganiad yr anfonir unrhyw sylwadau a wneir gan berson a grybwyllir ym mharagraff (1) at yr apelydd ac i'r awdurdod cynllunio lleol; ac (ff) datganiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y sylwadau hynny pan fydd yn penderfynu'r apêl oni bai fod unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) yn eu tynnu yn ôl o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
Holiadur
(b) copi o bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo.
(2) Rhaid i'r holiadur ddatgan y dyddiad yr anfonir ef i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.
(b) datganiad a fyddai'n barod i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y materion a honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri ar y rheolaeth gynllunio, neu i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth i'r gwaith y mae'r hysbysiad gorfodi adeiladau rhestredig neu'r hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn berthnasol iddo, yn ôl y digwydd, ac, os felly, manylion o'r amodau, os oes rhai, a ddymunai eu gosod ar y caniatâd neu'r cydsyniad.
(5) Rhaid dyddio unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (3) neu (4) a'u hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad sydd arnynt.
(b) pennu cyfnod nad yw'n llai na 2 wythnos erbyn pryd y mae'n rhaid iddo gael unrhyw sylwadau ar y sylwadau rheiny.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff 2(b) os bydd yr awdurdod wedi methu â hysbysu personau sydd â buddiant yn unol â rheoliad 5. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 174 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, adran 39 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a'r adran honno fel y'i cymhwyswyd gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno, yn rhoi hawl apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi, hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig a hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth, fel ei gilydd, ar berson sydd â buddiant yn y tir y mae'r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef neu sydd yn feddiannydd perthnasol. Mae gan apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol hawl mewn unrhyw achos apêl i ymddangos gerbron person sydd wedi ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") ac i gael gwrandawiad gan y person hwnnw, ond cânt gytuno i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a dogfennau ategol. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn a'r terfynau amser mewn cysylltiad ag apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi sydd i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig. Y prif gamau yn y weithdrefn yw -
(b) rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, hysbysu partïon sydd â buddiant yn yr apêl (rheoliad 5), a rhaid iddo gwblhau ac anfon holiadur ynghyd ag unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 6); (c) caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis trin yr holiadur, y dogfennau a anfonwyd gydag ef, a'r datganiad a ddarperir o dan reoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003, fel eu sylwadau ysgrifenedig, ond pan nad ydynt yn dewis gwneud hynny mae ganddynt 6 wythnos o'r dyddiad dechrau i anfon sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 7); (ch) sylwadau'r apelydd yw'r hysbysiad apêl, dogfennau sy'n mynd gydag ef ac unrhyw ddogfen a anfonir o dan reoliad 5 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003, ond caiff anfon sylwadau pellach o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 7); (d) mae gan yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn i anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol sylwadau ar sylwadau ei gilydd (rheoliad 7); (dd) mae gan barti sydd â buddiant, ac sydd wedi ei hysbysu o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn, 6 wythnos o'r dyddiad dechrau i anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8); ac (e) rhoddir p er i'r Cynulliad Cenedlaethol anwybyddu sylwadau ysgrifenedig nad yw yn eu cael o fewn y terfyn amser perthnasol a chaiff fynd rhagddo i benderfynu heb gael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser wedi iddo hysbysu'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol o'i fwriad i wneud hynny (rheoliad 10).
Mae rheoliad 11 yn awdurdodi dogfennau, sy'n cael eu hanfon yn unol â'r Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy gyfrwng cyfathrebu electronig. Notes: [1] 1990 p.8; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 175 a 323, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo a breinir hwy bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 3 iddo. Mae adran 175 yn cynnwys diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 323 gan baragraff 26 o Atodlen 3 i'r Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.53).back [2] 1990 p.9; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae adran 89(1) yn cymhwyso'r darpariaethau gwneud rheoliadau a gynhwysir yn adran 323 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i'r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) at ddibenion y Rheoliadau hyn.back [3] 1990 p.9; diwygiwyd adran 39 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), diwygiwyd Atodlen 3 gan adran 25 o'r Ddeddf honno ac Atodlen 3, Rhan II, paragraff 28 iddi, a chan O.S. 1997/2971. Diwygiwyd adran 12 gan adran 17 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 (p.42). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [4] O.S. 2003/394 (Cy.53).back [5] O.S. 1991/2804, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1492 a 1992/1904.back
ISBN 0 11090688 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 28 March 2003 |