Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003, ISBN 0 11090649 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160(4) a 160(3) a (5) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 29 Ionawr 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Achosion pan na fydd darpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf yn gymwys
(b) mewn perthynas â rhoi tenantiaeth ddiogel o dan adran 554 a 555 o Ddeddf Tai 1985[4] (rhoi tenantiaeth i gyn berchen-feddiannydd neu denant statudol t annedd diffygiol).
Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys
(b) Dosbarth B-person -
(ii) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei wneud yn ofynnol iddo ei gynnal a'i letya ei hun, ac unrhyw berson sy'n ddibynnol arno, heb fynd ar ofyn cronfeydd cyhoeddus;
(c) Dosbarth C-person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ac nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw person -
(ii) a fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan ddaeth i mewn i'r wlad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad a grybwyllir uchod mewn perthynas â'r person hwnnw, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a (iii) y mae ei noddwr neu, os bydd rhagor nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn fyw o hyd;
(d) Dosbarth Ch-person sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac sy'n -
(ii) cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 1985[9] (cartrefu'r digartref) neu Ran VII o'r Ddeddf (digartrefedd) sy'n bodoli, ac sy'n wladolyn gwladwriaeth a lofnododd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth a lofnododd Siarter Gymdeithasol Ewrop ar 18 Hydref 1961.
Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(5) nad ydynt yn bersonau cymwys
(b) person a chanddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol â Gorchymyn Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2000[12] ac sy'n deillio o Cyfarwyddeb y Cyngor Rhif 68/360/CEE[13]) neu Rif 73/148/CEE[14]; (c) person sydd wedi ymadael â thriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydrad folcanig ar y diriogaeth honno.
Dirymu (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau i Ran VI o Ddeddf Tai 1996 ("Rhan VI") a wnaethpwyd gan Ddeddf Digartrefedd 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer achosion pan na fydd darpariaethau Rhan VI ynghylch dyrannu llety tai gan awdurodau tai lleol yn gymwys. Yn rhinwedd Adran 160A(1) a (3) o Ddeddf Tai 1996, rhaid i awdurdod tai lleol beidio â dyrannu llety tai i'r rhan fwyaf o ddosbarthiadau o bobl o dramor sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p.49)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru bennu eithriadau. Mae'n gwneud felly, yn rheoliad 4, drwy ragnodi dosbarthiadau o bobl sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai, er gwaethaf iddynt fod yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Mae pobl o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i ddyraniad o lety tai o dan Ran VI o Ddeddf 1996, oni bai i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi fel arall. (Adran 160A(5) o Ddeddf 1996). Drwy ragnodi dosbarth o bobl sy'n anghymwys o dan Ran VI mae'r Cynulliad yn gwneud hyn yn rheoliad 5. Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys (gyda rhai eithriadau) pobl nad ydynt fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin. Ystyr ('Ardal Deithio Gyffredin' yw'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon). Mae rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000. Mae'r Rheoliadau hyn, gyda mân newidiadau drafftio, yn cynnwys darpariaethau tebyg i'r rheini sydd yn Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000. Mae'r Rheoliadau nas ailddeddfwyd yn ymwneud â'r cyfyngiadau ar y dyrannu i bobl sydd eisoes yn denantiaid ac â'r gofynion i sefydlu, cynnal a gweithredu cofrestr dai, ac a ddiddymwyd bellach. Mae Papurau Gorchymyn 2643, 3906, 9171 a 9512, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, allan o brint, ond gall y Llyfrfa gael llungopïau o'r dogfennau hyn o Is-adran Llyfrgell Fenthyca Prydain (BLLD). Oni bai fod cwsmeriaid eisoes wedi cofrestru â'r BLLD, dylent archebu llungopïau oddi wrth The Photocopying Unit, The Stationery Office, Nine Elms Lane, Llundain SW8 5DR, gan amgáu'r taliad priodol am y copïau y gofynnir amdanynt. Cost gyfredol pob copi cyflawn o Bapur Gorchymyn 2643, 3906 neu 9512 yw £6.00 a chost gyfredol pob copi cyflawn o Bapur Gorchymyn 9171 yw £12.00. Dylid gwneud sieciau yn daladwy i "Y Llyfrfa". Notes: [1] 1996 p.52; ychwanegwyd adran 160 gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd (2002) (p.7); gweler adran 215(1) am y diffiniad o "prescribed". Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 160, 160A, 172(4) a 215(2), i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn)) ac adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002.;back [3] 1973 p.26; diwygiwyd adran 39 gan Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Iawndal Tir (Yr Alban) 1973 (p.56), paragraff 40 o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 1974 (p.44), paragraff 10 o Atodlen 7 i Ddeddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p.75), Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p.71) a pharagraff 24 o Atodlen 2 iddi, Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), a pharagraff 29 of Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p.11).back [4] 1985 p.68; diwygiwyd adran 554(61) gan baragraff 61 o Atodlen 17 i Ddeddf Tai 1988 (p.50) ac O.S.1996/2325.back [9] 1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Orchymyn Deddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (O.S. 1996/2959 (C.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i ymgeiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno ac a wnaeth geisiadau cyn 20 Ionawr 1997.back [10] OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 2, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.475, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [11] OJ Rhif L 142 30.6.70, t.24 Argraffiad Arbennig 1970 (II) t.402.back [13] OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 13, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.485, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [14] OJ Rhif L 172 28.6.73, t.14.back [15] O.S. 2000/1080 (Cy.73).back
ISBN 0 11090649 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 18 February 2003 |