Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090630 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003. (2) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(c) yn is-baragraff (6) (a), yn lle "other than a drug which is for the time being specified in Schedule 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985" rhowch "other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;".
Diwygio Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol
(b) yn is-baragraff (6), yn lle "the Misuse of Drugs Regulations 1985", rhowch "the Misuse of Drugs Regulations 2001"; (c) yn is-baragraff (9) (b), yn lle "other than a drug which is for the time being specified in Schedule 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985", rhowch "other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol"), sy'n rheoleiddio'r telerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol odanynt yn ôl Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 ("y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol"), sydd yn rheoli'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol o dan Ddeddf 1977. Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraff 43 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Telerau Gwasanaeth i Feddygon) i ganiatáu meddygon i ragnodi fesul dyraniad y cyffuriau hynny a restrir yn Atodlenni 2 hyd 5 o Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 ar gyfer trin y cyflwr o fod yn gaeth i unrhyw un o'r cyffuriau a restrir yn yr Atodlenni hynny. Yr oedd Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 yn dirymu Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 1985 a'u hailddeddfu gyda diwygiadau. Y mae hefyd yn cywiro rhywbeth a hepgorwyd o is-baragraffau 43(5) a (6). Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 2 i'r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol (Telerau Gwasanaeth i Fferyllyddion) sydd yn canlyn ar ôl i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 ddod i rym. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), am ddiffiniadau "prescribed" a "regulations". Cafodd adran 29 ei hestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999 , Atodlen 4, paragraff 37(6). Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf 1980, adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7; gan OS 1985/39, erthygl 7(13); gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; gan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 29 a chan Ddeddf 1997, Atodlen 2, paragraff 13. Cafodd adran 42 ei hamnewid gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan OS 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30. Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back [2] OS 1992/662; 1993/2451 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [3] O.S.1992/635 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back [4] OS 2001/3998, a ddirymodd ddarpariaethau Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 1985 (OS 1985/2066), a'u hailddeddfu gyda diwygiadau.back [5] OS 1985/2066; a gafodd ei ddirymu a'i ailddeddfu gyda diwygiadau gan OS 2001/3998.back
ISBN 0 11090630 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 5 February 2003 |