Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3278 (Cy.316)

      Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002, ISBN 0 11090643 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3278 (Cy.316)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002

  Wedi'i wneud 3 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Ceredigion. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

    (a) at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a

    (b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

    ystyr "map A" ("map A") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd "map A Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberystwyth 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 [3];

    ystyr "map B" ("map B") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd "map B Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberteifi 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;

    ystyr "map C" ("map C") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd "map C Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Llanbadarn Fawr 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.

Adrannau etholiadol
     2.  - (1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Ceredigion a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994 wedi'u diddymu.

    (2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Ceredigion, rhennir y Sir honno yn 40 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y mapiau ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.

    (3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol
    
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


E.Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

3 Rhagfyr 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2


Enwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Ceredigion




(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Aberaeron Cymuned Aberaeron 1
Aber-porth Cymuned Aber-porth 1
Aberteifi/ Cardigan  -  Mwldan Ward Mwldan yng Nghymuned Aberteifi 1
Aberteifi/ Cardigan  -  Rhyd-y-fuwch Ward Rhyd-y-fuwch yng Nghymuned Aberteifi 1
Aberteifi/ Cardigan  -  Teifi Ward Teifi yng Nghymuned Aberteifi 1
Aberystwyth Bronglais Ward Ddwyreiniol Cymuned Aberystwyth 1
Aberystwyth Canol/Central Ward Ganalog Cymuned Aberystwyth 1
Aberystwyth Gogledd/North Ward Ogleddol Cymuned Aberystwyth 1
Aberystwyth Penparcau Ward Ddeheuol Cymuned Aberystwyth 2
Aberystwyth Rheidol Ward Glanyrafon Cymuned Aberystwyth 1
Beulah Cymuned Beulah 1
Capel Dewi Wardiau Capel Dewi Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul 1
Ceinewydd Cymuned Ceinewydd 1
Ceulan-a-Maesmor Cymunedau Ceulan a Maesmor Llangynfelyn ac Ysgubor-y-coed 1
Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron a Henfynyw 1
Faenor Cymuned Faenor 1
Llanbadarn Fawr -Padarn Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1
Llanbadarn Fawr -Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1
Llanbedr Pont Steffan Cymuned Llanbedr Pont Steffan 2
Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1
Llandysiliogogo Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaiarn 1
Llanfarian Cymuned Llanfarian 1
Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle 1
Llangeitho Cymunedau Llanddewibrefi a Llangeitho 1
Llangybi Cymunedau Llanfair Clydogau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle 1
Llannarth Cymuned Llannarth 1
Llanrhystud Cymunedau Llangwyryfon a Llanrhystud 1
Llansanffraid Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid 1
Llanwenog Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen 1
Lledrod Cymunedau Lledrod, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig 1
Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach 1
Penbryn Cymunedau Llangrannog a Phenbryn 1
Pen-parc Cymunedau Llangoedmor a'r Ferwig 1
Tirymynach Cymuned Tirymynach 1
Trefeurig Cymuned Trefeurig 1
Tref Llandysul Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul 1
Tregaron Cymuned Tregaron 1
Troed-yr-aur Cymuned Troed-yr-aur 1
Y Borth Cymunedau'r Borth a Genau'r Glyn 1
Ystwyth Cymunedau Llanilar a Thrawsgoed 1









NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Rhagfyr 1999 ar gyfer Sir Ceredigion.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau Aberaeron, Aber-porth, Beulah, Capel Dewi, Ceinewydd, Ceulan-a-Maesmor, Ciliau Aeron, Faenor, Llanbedr Pont Steffan, Llandyfrïog, Llandysiliogogo, Llanfarian, Llanfihangel Ystrad, Llangeitho, Llangybi, Llannarth, Llanrhystud, Llansanffraid, Llanwenog, Lledrod, Melindwr, Penbryn, Pen-parc, Tirymynach, Trefeurig, Tref Llandysul, Tregaron, Troed-yr-aur, Y Borth, Ystwyth.

Mae'r newidiadau canlynol yn cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn:

    Rhennir adran bresennol Aberteifi yn dair adran etholiadol newydd, sef:

    Aberteifi/Cardigan  -  Mwldan, yn cynnwys ward Mwldan cymuned Aberteifi. Mae pob adran etholiadol newydd i'w chynrychioli gan un cynghorydd;

    Aberteifi/Cardigan  -  Rhyd-y-fuwch, yn cynnwys ward Rhyd-y-fuwch cymuned Aberteifi;

    Aberteifi/Cardigan  -  Teifi yn cynnwys ward Teifi cymuned Aberteifi.

    Rhennir Aberystwyth yn bum adran etholiadol:

    Aberystwyth Bronglais yn cynnwys Ward Ddwyreiniol cymuned Aberystwyth, sy'n ethol un cynghorydd;

    Aberystwyth Canol/Central yn cynnwys ward Ganolog cymuned Aberystwyth, sy'n ethol un cynghorydd;

    Aberystwyth Gogledd/North yn cynnwys ward Ogleddol cymuned Aberystwyth sy'n ethol un cynghorydd;

    Aberystwyth Penparcau yn cynnwys ward Ddeheuol cymuned Aberystwyth, sy'n ethol dau gynghorydd; ac

    Aberystwyth Rheidol yn cynnwys ward Glanyrafon cymuned Aberystwyth, sy'n ethol un cynghorydd.

    Rhennir adran bresennol Llanbadarn Fawr er mwyn creu dwy adran etholiadol o'r enw Llanbadarn Fawr Sulien a Llanbadarn Fawr Padarn  -  y naill a'r llall yn ethol un cynghorydd.

Mae ardaloedd yr adrannau etholiadol newydd wedi'u diffinio ar y mapiau manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2. Gellir archwilio printiau ohonynt ar bob adeg resymol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).


Notes:

[1] 1972 p.70.back

[2] Mae enw'r Sir wedi'i newid o Sir Aberteifi i Geredigion yn unol ag adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.back

[3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).back



English version



ISBN 0 11090643 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 18 February 2003