Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002, ISBN 0 11090638 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2001 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf. Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
Adrannau Etholiadol
![]() (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru o dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i awdurdodau unedol ym Mai 1995. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2001 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath. Nid oes unrhyw newid i adrannau Baruc, Buttrills, Cadog, Castleland, Cornerswell, Court, Y Bont-faen, Dinas Powys, Dyfan, Gibbonsdown, Illtud, Llandoche, Lland /Ewenni, Llanilltud Fawr, Llanbedr-y-fro, Y Rhws, Sain Tathan, Saint-y-brid, Stanwell, Gwenfô.Mae adran etholiadol bresennol Alexandra yn cael ei rhannu i greu dwy adran etholiadol newydd o'r enw Plymouth a St Augustine's. Mae adran etholiadol Plymouth i gynnwys ward Plymouth cymuned Penarth. Mae'r adran i'w chynrychioli gan ddau gynghorydd. Mae adran etholiadol St Augustine's i gynnwys ward St Augustine's cymuned Penarth. Mae'r adran i'w chynrychioli gan ddau gynghorydd. Bydd y nifer o gynghorwyr sy'n cynrychioli adran bresennol Sili yn cynyddu o un i ddau. Mae ardaloedd yr adrannau etholiadol newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2. Gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol). Notes: [1] 1972 p.70.back [2] Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.back [3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).back
ISBN 0 11090638 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 12 February 2003 |