Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002, ISBN 0 11090623 3. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
Adrannau Etholiadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i awdurdodau unedol ym Mai 1995. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Rhagfyr 1999 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Er bod y Gorchymyn yn dileu pob adran etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath. Mae'r trefniadau presennol yn aros yr un fath ar gyfer adrannau etholiadol Allt-yr-ynn, Alway, Beechwood, Betws, Caerllion, Y Gaer, Y Graig, Llan-wern, Malpas, Pilgwenlli, Ringland, T -du, Shaftesbury, Sain Silian, Stow Hill, Parc Tredegar, Victoria.Cynrychiolir adran Langstone, sy'n cynnwys cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-h , gan ddau gynghorydd.Mae adran etholiadol Liswerry i gynnwys cymunedau Liswerry a Threfonnen ac mae i'w chynrychioli gan bedwar cynghorydd.Ni fydd adran etholiadol Llan-wern felly yn cynnwys cymuned Treffonen. Mae adran Maerun, sy'n cynnwys cymunedau Coedcernyw, Maerun, Llanfihangel-y-fedw a Gwynllwg, i'w cynrychioli gan ddau gynghorydd. Notes: [1] 1972 p.70.back [2] Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.back
ISBN 0 11090623 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 30 January 2003 |