Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3275 (Cy.313)

      Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002, ISBN 0 11090629 2. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3275 (Cy.313)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002

  Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2000 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Fynwy. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

    (a) at ddibenion achosion sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003; ac

    (b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

    ystyr "map" ("map") yw'r map a farciwyd "map Gorchymyn Sir Fynwy (Newidadau Etholiadol) 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976[3].

Adrannau Etholiadol
     2.  - (1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Fynwy a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy 1994 wedi'u diddymu.

    (2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Fynwy, rhennir y Sir honno yn 42 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.

    (3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol
    
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

6 Rhagyfr 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2


Enwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Fynwy


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Caer-went Cymuned Caer-went 1
Castell Caldicot Ward Castell Caldicot yng Nghymuned Caldicot 1
Cantref Ward Cantref yng Nghymuned y Fenni 1
Y Castell Ward Castell y Fenni 1
Croesonnen Wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1
Crucornau Fawr Cymunedau Crucornau Fawr a'r Grysmwnt 1
Devauden Cymunedau Devauden a Llan-gwm 1
Llanddewi Ward Llanddewi yng Nghymuned Caldicot 1
Dixton gydag Osbaston Ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy 1
Drybridge Ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy 1
Goetre Fawr Cymuned Goetre Fawr 1
Green Lane Ward Green Lane yng Nghymuned Caldicot 1
Grofield Ward Grofield yng Nghymuned y Fenni 1
Lansdown Ward Lansdown Yng Nghymuned y Fenni 1
Larkfield Ward Larkfield yng Nghymuned Cas-gwent 1
Llanbadog Cymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog 1
Bryn Llanelli Cymuned Llanelli 2
Llan-ffwyst Fawr Wardiau Llanelen, Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1
Llangybi Fawr Cymunedau Llangybi, Llanhenwg a Llantrisaint Fawr 1
Llanofer Cymunedau Llan-arth a Llanofer 1
Llandeilo Gresynni Cymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni 1
Llanwenarth Tu Draw Ward Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1
Y Maerdy Wardiau'r Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1
Mill Wardiau The Mill, Denny a Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1
Llanfihangel Troddi Cymuned Llanfihangel Troddi 1
Overmonnow Ward Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy 1
Porth Sgiwed Cymuned Porth Sgiwed 1
Y Priordy Ward y Priordy yng Nghymuned y Fenni 1
Rhaglan Cymuned Rhaglan 1
Rogiet Cymuned Rogiet 1
Hafren Ward Hafren yng Nghymuned Caldicot 1
Drenewydd Gelli-farch Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch 1
St. Arvans Cymunedau St. Arvans a Thyndyrn 1
St. Christopher's Ward St. Christopher's yng Nghymuned Cas-gwent 1
St. Kingsmark Ward St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent 1
St. Mary's Ward St. Mary's yng Nghymuned Cas-gwent 1
The Elms Ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1
Thornwell Ward Thornwell yng Cymuned Cas-gwent 1
Tryleg Unedig Cymuned Tryleg Unedig 1
Brynbuga Cymuned Brynbuga 1
West End Ward West End yng Nghymuned Caldicot 1
Wyesham Ward Wyesham yng Cymuned Trefynwy 1





NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2000 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Fynwy.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau:

    Croesonnen, Crucornau Fawr, Goetre Fawr, Larkfield, Llanbadog, Bryn Llanelli, Llan-ffwyst Fawr, Llangybi Fawr, Llanofer, Llandeilo Gresynni, Llanwenarth Tu Draw, Y Maerdy, Llanfihangel Troddi, Overmonnow, Porth Sgiwed, Rhaglan, Rogiet, St. Arvans, St. Christopher's, St. Kingsmark, St. Mary's, Thornwell, Tryleg Unedig, Brynbuga, Wyesham.

Mae cymuned bresennol y Fenni i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:

Cantref, Y Castell, Grofield, Lansdown, Y Priordy.

Mae cymuned bresennol Caldicot i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:

Castell Caldicot, Dewstow, Green Lane, Hafren, West End.

Ar hyn o bryd mae adran bresennol Caer-went yn cynnwys Cymunedau Caer-went a Matharn. O dan y trefniadau newydd bydd adran etholiadol Caer-went yn cynnwys Cymuned Caer-went. Bydd yr adran yn ethol un cynghorydd.

Ar hyn o bryd mae adran bresennol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Devauden, Llan-gwm a Drenewydd Gelli-farch. O dan y trefniadau newydd mae Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch ac yn ethol un cynghorydd.

Mae adrannau etholiadol newydd yn cael eu creu ar gyfer:

    Devauden, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys cymunedau Devauden a Llan-gwm.

    Mae Dixton gydag Osbaston i ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy.

    Drybridge, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy.

    Mill, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys wardiau The Mill, Denny and Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy.

    The Elms, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r Adran i gynnwys ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy.

Mae ardaloedd yr adrannau newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2, ac y gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Cyngor Sir ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).


Notes:

[1] 1972 p.70.back

[2] Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.back

[3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).back



English version



ISBN 0 11090629 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 6 February 2003