| | Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3274 (Cy.312)Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002
© Hawlfraint y Goron 2002
Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002, ISBN
0 11090622 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.
Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2002 Rhif 3274 (Cy.312)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002
| |
Wedi'i wneud |
6 Rhagfyr 2002 | |
| |
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) |
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Medi 1998 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Gwynedd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym -
(a) at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "adran etholiadol" ("electoral division") yw un o adrannau etholiadol Sir Gwynedd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd 1994[2];
ystyr "y Ddeddf ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
Adrannau Etholiadol
2.
- (1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Gwynedd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gwynedd 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Gwynedd, rhennir y Sir honno yn 71 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol
3.
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
YR ATODLENErthygl 2
Enwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Gwynedd
|
(1)
|
(2)
|
(3)
|
|
Enw'r Adran Etholiadol
|
Ardal yr Adran Etholiadol
|
Y Nifer o Gynghorwyr
|
|
Aberdaron |
Cymuned Aberdaron |
1 |
|
Aberdyfi |
Cymunedau Aberdyfi a Phennal |
1 |
|
Abererch |
Wardiau Abererch a'r Ffôr yng Nghymuned Llannor |
1 |
|
Abermaw |
Cymuned Abermo |
1 |
|
Aber-soch |
Ward Aber-soch Cymuned Llanengan |
1 |
|
Arllechwedd |
Cymuned Aber a Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái |
1 |
|
Y Bala |
Cymuned y Bala |
1 |
|
Bethel |
Ward Bethel Cymuned Llanddeiniolen |
1 |
|
Y Bontnewydd |
Cymuned y Bontnewydd |
1 |
|
Botwnnog |
Cymuned Botwnnog |
1 |
|
Bowydd a'r Rhiw |
Wardiau Bowydd a'r Rhiw a ward Tanygrisiau Cymuned Ffestiniog |
1 |
|
Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/ Llanelltud |
Cymunedau Brithdir a Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud |
1 |
|
Bryn-crug/ Llanfihangel |
Cymunedau Bryn-crug a Llanfihangel-y-Pennant |
1 |
|
Cadnant |
Ward y Dwyrain yng Nghymuned Caernarfon |
1 |
|
Clynnog |
Cymuned Clynnog |
1 |
|
Corris/Mawddwy |
Cymunedau Corris a Mawddwy |
1 |
|
Criccieth |
Cymuned Criccieth |
1 |
|
Cwm-y-glo |
Wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug |
1 |
|
Deiniol |
Ward Deiniol Cymuned Bangor |
1 |
|
Deiniolen |
Wardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig Cymuned Llanddeiniolen |
1 |
|
Dewi |
Ward Dewi Cymuned Bangor |
1 |
|
Diffwys a Maenofferen |
Ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog |
1 |
|
Dolbenmaen |
Wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen |
1 |
|
Gogledd Dolgellau |
Ward Ogleddol a Ward Wledig Cymuned Dolgellau |
1 |
|
De Dolgellau |
Ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau |
1 |
|
Dyffryn Ardudwy |
Cymuned Dyffryn Ardudwy |
1 |
|
Efailnewydd/Buan |
Cymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf Cymuned Llannor |
1 |
|
Garth |
Ward Garth Cymuned Bangor |
1 |
|
Gerlan |
Wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda |
1 |
|
Glyder |
Ward Glyder Cymuned Bangor |
1 |
|
Y Groeslon |
Wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog |
1 |
|
Harlech |
Cymunedau Harlech a Thalsarnau |
1 |
|
Hendre |
Ward Hendre Cymuned Bangor |
1 |
|
Hirael |
Ward Hirael Cymuned Bangor |
1 |
|
Llanaelhaearn |
Cymunedau Llanaelhaearn a Phistyll |
1 |
|
Llanbedr |
Cymunedau Llanbedr a Llanfair |
1 |
|
Llanbedrog |
Cymuned Llanbedrog |
1 |
|
Llanberis |
Cymuned Llanberis |
1 |
|
Llandderfel |
Cymunedau Llandderfel a Llanycil |
1 |
|
Llanengan |
Wardiau Llanengan a Llangïan Cymuned Llanengan |
1 |
|
Llangelynnin |
Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin |
1 |
|
Llanllyfni |
Wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni |
1 |
|
Llanrug |
Ward Llanrug Cymuned Llanrug |
1 |
|
Llanuwchllyn |
Cymunedau Llanuwchllyn a Llangywer |
1 |
|
Llanwnda |
Cymuned Llanwnda |
1 |
|
Llanystumdwy |
Cymuned Llanystumdwy |
1 |
|
Marchog |
Ward Marchog Cymuned Bangor |
2 |
|
Menai (Bangor) |
Ward Menai Cymuned Bangor |
2 |
|
Menai (Caernarfon) |
Ward y Gogledd yng Nghymuned Caernarfon |
1 |
|
Morfa Nefyn |
Wardiau Edern a Morfa Nefyn yng Nghymuned Nefyn |
1 |
|
Nefyn |
Ward Nefyn Cymuned Nefyn |
1 |
|
Ogwen |
Ward Ogwen Cymuned Bethesda |
1 |
|
Peblig (Caernarfon) |
Ward Ddeheuol Cymuned Caernarfon |
1 |
|
Penisa'r-waun |
Wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiw las Cymuned Llanddeiniolen |
1 |
|
Penrhyndeudraeth |
Cymunedau Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth |
1 |
|
Pentir |
Cymuned Pentir |
1 |
|
Pen-y-groes |
Ward Pen-y-groes Cymuned Llanllyfni |
1 |
|
Dwyrain Porthmadog |
Ward y Dwyrain a Ward Ynys Galch yng Nghymuned Porthmadog |
1 |
|
Gorllewin Porthmadog |
Ward y Gest, Ward Morfa Bychan a Ward y Gorllewin yng Nghymuned Porthmadog |
1 |
|
Porthmadog-Tremadog |
Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog |
1 |
|
Gogledd Pwllheli |
Ward y Gogledd yng Nghymuned Pwllheli |
1 |
|
De Pwllheli |
Ward y De yng Nghymuned Pwllheli |
1 |
|
Seiont |
Ward y Gorllewin yng Nghymuned Caernarfon |
2 |
|
Tal-y-sarn |
Wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni |
1 |
|
Teigl |
Wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog |
1 |
|
Trawsfynydd |
Cymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd |
1 |
|
Tre-garth a Mynydd Llandygái |
Wardiau St Ann's a Thre-garth Cymuned Llandygái |
1 |
|
Tudweiliog |
Cymuned Tudweiliog |
1 |
|
Tywyn |
Cymuned Tywyn |
2 |
|
Waunfawr |
Cymunedau Betws Garmon a Waunfawr |
1 |
|
Y Felinheli |
Cymuned y Felinheli |
1 |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Medi 1998 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Gwynedd.
Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.
Nid oes unrhyw newid i adrannau Aberdaron, Aberdyfi, Abererch, Aber-soch, Y Bala, Bethel, Y Bontnewydd, Botwnnog, Bowydd a'r Rhiw, Cadnant, Clynnog, Corris/Mawddwy, Criccieth, Deiniol, Deiniolen, Dewi, Dyffryn Ardudwy, Efailnewydd/Buan, Garth, Glyder, Harlech, Hendre, Hirael, Llanaelhaearn, Llanbedr, Llanbedrog, Llanberis, Llandderfel, Llanengan, Llanuwchllyn, Llanwnda, Marchog, Menai (Bangor), Nefyn, Ogwen, Peblig (Caernarfon), Pen-y-groes, Gogledd Pwllheli, De Pwllheli, Seiont, Trawsfynydd, Tudweiliog, Tywyn, Waunfawr, Y Felinheli.
Serch hynny, mae'r adrannau etholiadol newydd canlynol i'w creu:
Abermaw i gynnwys Cymuned Abermo ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Arllechwedd i gynnwys Cymunedau Aber, Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/Llanelltud i gynnwys Cymunedau Brithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Bryn-crug/Llanfihangel i gynnwys Cymunedau Bryn-crug, a Llanfihangel-y-Pennant ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Cwm-y-glo i gynnwys wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug, ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Adran Diffwys a Maenofferen i gynnwys ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Dolbenmaen i gynnwys wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Gogledd Dolgellau i gynnwys ward Ogleddol a ward Wledig Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
De Dolgellau i gynnwys ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Y Groeslon i gynnwys wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Llanystumdwy i gynnwys Cymuned Llanystumdwy ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Morfa Nefyn i gynnwys wardiau Edern a Morfa Nefyn Cymuned Nefyn ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Teigl i gynnwys wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Tre-garth a Mynydd Llandygái i gynnwys wardiau St Ann's a Thre-garth Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Bydd cyfansoddiad yr adrannau presennol canlynol yn newid:
Gerlan i gynnwys wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Llangelynnin i gynnwys Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Llanllyfni i gynnwys wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Penisa'r-waun i gynnwys wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiwlas Cymuned Llanddeiniolen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Dwyrain Porthmadog i gynnwys ward y Dwyrain a ward Ynys Galch Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Gorllewin Porthmadog i gynnwys ward y Gest, ward Morfa Bychan a ward y Gorllewin Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Porthmadog-Tremadog i gynnwys Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Tal-y-sarn i gynnwys wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Mae newid hefyd yn y nifer o gynghorwyr ar gyfer yr adrannau canlynol:
Mae cynrychiolaeth Llanrug yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae cynrychiolaeth Menai (Caernarfon) yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae cynrychiolaeth Penrhyndeudraeth yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae cynrychiolaeth Pentir yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Notes:
[1]
1972 p.70.back
[2]
Mae enw'r Sir wedi'i newid o Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i Wynedd yn unol ag adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.back
English version
ISBN
0 11090622 5
| |