Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3273 (Cy.311)

      Gorchymyn Caerdydd a Bro Morgannwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Caerdydd a Bro Morgannwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002, ISBN 0 11090628 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3273 (Cy.311)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Caerdydd a Bro Morgannwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002

  Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ionawr 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1), 58(1) a 73 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ar ei adolygiad ar y ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg yn ardal Ffordd Ddolen Grangetown ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;

     a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau;

     a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

     yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

    Ystyr "Bro Morgannwg" ("Vale of Glamorgan") yw Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;

    ystyr "Caerdydd" ("Cardiff") yw Dinas a Sir Caerdydd;

    ystyr "y map ffiniau " ("the boundary map") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
     3. Bydd y rhan o Fro Morgannwg sydd yng Nghymuned Llanfihangel-ynys-Afan ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Grangetown yng Nghaerdydd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002










NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny fydd bod yr ardal (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn cael ei throsglwyddo o gymuned Llanfihangel-ynys-Afan ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg i gymuned Grangetown yn Ninas a Sir Caerdydd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym ac o ganlyniad bydd y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Dinas a Sir Caerdydd yn dilyn canol Afon Elái.

Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn Holton Road, y Bari, Bro Morgannwg, a swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.


Notes:

[1] 1972 (p.70)back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.199/672).back

[3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S 1978/1247).back



English version



ISBN 0 11090628 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 February 2003