Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3012 (Cy 284) (C.96)

      Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002, ISBN 0 11090604 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3012 (Cy 284) (C.96)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002

  Wedi'i wneud 4 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002[1] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "Deddf 1993" ("the 1993 Act") yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[3];

    ystyr "y dyddiad cychwyn" ("the commencement date") yw 1 Ionawr 2003; ac

    mae cyfeiriadau at adrannau ac atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 ac at Atodlenni iddi.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
     2. Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 dod i rym ar y dyddiad cychwyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2002



ATODLEN 1
Erthygl 2(b)(ii)


DIDDYMIADAU




RHAN 1



Pennod Teitl Byr Cwmpas y Diddymiad
1993 p.28 Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 Yn adran 5 - 

    yn is-adran (1), y geiriau "which is at a low rent or for a particularly long term", ac yn is-adran (2)(c), y geiriau "at a low rent for a particularly long term".

Adran 6.

Yn adran 7(3), y geiriau "at a low rent".

Adran 8.

Adran 8A.

Yn adran 10 - 

    is-adrannau (2), (3) a (4A), a yn is-adran (6), y diffiniad o "qualifying tenant".

Yn adran 13 - 

    yn is-adran (2), is-baragraff (i) o baragraff (b) a'r geiriau sy'n dilyn y paragraff hwnnw, ac yn is-adran (3)(e), y geiriau "the following particulars", y gair "namely" ac is-baragraffau (ii) a (iii).

1996 p.52 Deddf Tai 1996 Adran 105(3).

Adran 111.

Yn Atodlen 9, paragraff 3 ac is-baragraffau 5(2) a (3).

Yn Atodlen 10, paragraff 4.




RHAN 2



Pennod Teitl Byr Cwmpas y Diddymiad
1993 p.28 Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 Yn adran 39 - 

    yn is-adran (2), paragraff (b) a'r gair "and" o'i flaen, is-adrannau (2A) a (2B), is-adran nau (3)(c) a (d), ac is-adrannau (4A) a (5).

Adran 42(3)(b)(iii) a (iv) a (4).

Yn adran 45(5), y geiriau "and (b)".

Adran 62(4).

yn adran 94 - 

    yn is-adrannau (3) a (4), y geiriau "which is at a low rent or for a particularly long term", yn is-adran (12), y geiriau "which is at a low rent or for a particularly long term" a'r geiriau ", 8 and 8A".

Yn Atodlen 13, ym mharagraff 1, y diffiniad o "the valuation date".

1996 p.52 Deddf Tai 1996 Adran 112.

Yn Atodlen 9, paragraff 4.




RHAN 3



Pennod Teitl Byr Cwmpas y Diddymiad
1967 p.88 Deddf Diwygio Lesddaliad 1967 Yn adran 1 - 

    yn is-adran (1), y geiriau ", occupying the house as his residence," a'r geiriau ", and occupying as his residence,", is-adran (2), a yn is-adran (3)(a) y geiriau "and occupied by".

yn adran 1AA - 

    yn is-adran (1)(b), y geiriau "falls within subsection (2) below and", ac is-adrannau (2) a (4).

Yn adran 2 - 

    yn is-adran (3), y geiriau "and occupied by" a'r geiriau o "and are occupied" hyd at y diwedd, ac yn is-adran (4) y geiriau "or a subletting".

Yn adran 3(3) y geiriau ", except section 1AA,".

Yn adran 6 - 

    yn is-adran (2), y geiriau "in respect of his occupation of the house", ac yn is-adran (5) y geiriau "or statutory owners, as the case may be," a'r geiriau "or them".

Yn adran 7 - 

    yn is-adran (1) y geiriau "while occupying it as his residence", y geiriau ", and occupying the house as his residence" a pharagraff (b) a'r gair "and" o'i flaen, yn is-adran (4), y geiriau "while so occupying the house" a'r geiriau "occupying in right of the tenancy", ac is-adran(6).

Yn adran 9 - 

    yn is-adran (1), y geiriau "who reside in the house",

yn is-adran (1A)(a) y geiriau "and where the tenancy has been extended under this Part of this Act that the tenancy will terminate on the original term date" acis-adran (1C)(a).

Yn adran 16 - 

    is-adran (1)(a), yn is-adran (2), y geiriau "or occupied", y geiriau "(a) or" a'r geiriau "the freehold or",

yn is-adran (3), y geiriau "the freehold or" a'r amod,

ac yn is-adran (4) y geiriau "the freehold or".

Yn adran 37 - 

    yn is-adran (4) y geiriau ", except section 1AA,", ac yn is-adran (5), y geiriau o'r dechrau hyd at "but".

Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6, is-baragraff (1)(d) ac, yn is-baragraff (2) y geiriau "and (d)".

Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 3(2)(d), y gair "assign".

1980 p.51 Deddf Tai 1980 Yn Atodlen 21, paragraff 1.
1989 p.42. Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 Atodlen 11, paragraff 10.



ATODLEN 2
Erthygl 2(b)


DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION


Rhyddfreiniad torfol gan denantiaid ar fflatiau:
     1. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 115 i 120, 125 a 127 i 128 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad torfol - 

    (a) y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 13 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu

    (b) y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.

     2. Hyd nes y daw adrannau 121 i 124 i rym, mewn achos lle nad oes ond dau denant cymwys o fflatiau a gynhwysir yn yr adeiladau, ni chaiff adran 13(2)(b) o Ddeddf 1993 fel y'i diwygiwyd gan adran 119 ei bodloni oni bydd y ddau denant yn denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o "participating tenants" yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.

     3. Bydd is-baragraff (2A) o baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1993 a fewnosodwyd gan adran 128, hyd nes y dygir adrannau 121 i 124 i rym, yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriad at aelodau sy'n cyfranogi yn gyfeiriad at denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o "participating tenants" yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.

Prydlesi newydd i denantiaid fflatiau
     4. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 130, 131 a 134 i 136, y diddymiadau o adrannau 5, 7, 8 ac 8A o'r Ddeddf honno yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn a'r diddymiadau yn Rhan 2 o'r Atodlen honno yn cael effaith mewn perthynas â chais am brydles newydd o fflat - 

    (a) y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 42 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu

    (b) y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 50 o'r Ddeddf honno

cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.

Rhyddfreiniad ac estyn prydles ar gyfer tai ar lesddaliad
     5. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 141 ac adrannau 143 i 147 a'r diddymiadau yn Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad neu brydles estynedig o dycirc - 

    (a) y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 8 neu 14 o Ddeddf 1997 mewn perthynas ag ef; neu

    (b) y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 27 o'r Ddeddf honno

cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.

Rheolwyr a benodwyd gan dribiwnlys prisio lesddaliad
     6. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987[
5] gan adrannau 160 a 161 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.

Y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles
     7. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adran 162 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn ar 1 Ionawr 2003 yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 mewn perthynas â Chymru, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2.

Mae'r darpariaethau yn darparu ar gyfer newidiadau i'r canlynol:

    (a) rhyddfreiniad torfol gan denantiaid fflatiau: adrannau 114 i 120, 125, 127 i 128;

    (b) caffael prydlesi newydd i denantiaid fflatiau: adrannau 129 i 136;

    (c) rhyddfreiniad ac estyn prydles gan denantiaid tai: adrannau 137 i 147;

    (ch) ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliad i benodi rheolwr ar floc o fflatiau: adrannau 160 a 161; a

    (d) y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles: adran 162.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau mewn Deddfau eraill.


Notes:

[1] 2002 p.15. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y pwcircer o dan yr adran hon ynghylch Cymru yn unig- gweler adran 181(4)(b) o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002.back

[2] 1967 p.88.back

[3] 1993 p.28.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1987 p.31.back



English version



ISBN 0 11090604 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 24 December 2002