Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090590 3. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a) a (2) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2]. Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2002. Diwygio'r Rheoliadau 2. Diwygir Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[3] fel a ganlyn. 3. Yn rheoliad 3(2) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniad canlynol:
4.
Bydd Atodlen 3 yn dod yn Rhan I o Atodlen 3, ac yn union o flaen paragraff 1 mewnosodir y pennawd "RHAN I".
(b) ym mharagraff 1(2) yn lle "9" rhowch "11"; (c) ym mharagraff 1(3) yn lle "7 neu 9" rhowch "7, 9, 10 neu 11" bob tro y maent yn digwydd; (ch) ar ôl paragraff 9 mewnosodwch y paragraffau canlynol -
(b) ei fod wedi'i asesu gan yr awdurdod argymell fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; ac (c)
(ii) ei fod cyn 1 Ionawr 1974 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron, neu (iii) ei fod cyn 1 Medi 1989 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, botaneg, söoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg; ac
(ch) ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn ysgol annibynnol cyn 1 Medi 1989.
(2) Yn y paragraff hwn -
(ii) yn achos pennaeth neu benadur, yw cadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, neu os nad oes un, perchennog yr ysgol;
(b) mae i "sefydliad estron" yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(b); ac
11.
- (1) Mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i berson a datganiad -
(ii) fel hyfforddwr mewn ysgol yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2;
(b) ei fod wedi'i asesu gan yr awdurdod argymell fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig;
(ii) ei fod cyn 1 Ionawr 1974 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron; neu (iii) ei fod cyn 1 Medi 1989 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, botaneg, söoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg;
(ch) ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989;
(2) Yn y paragraff hwn -
(ii) yn achos pennaeth neu benadur, yw cadeirydd y corff llywodraethu;
(b) mae i "sefydliad estron" yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(b); ac
6.
Ar ôl Rhan I o Atodlen 3 mewnosodwch y Rhan ganlynol - Celfyddyd 12. Gofynion y paragraff hwn yw bod y person -
(ii) Diploma Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Celfyddyd (ARCA) neu Feistr Celfyddyd Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Art (RCA)), (iii) Diploma Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Des RCA) neu Dystysgrif Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Cert Des RCA) neu Feistr Dylunio Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Des (RCA)), (iv) Tystysgrif Ysgolion yr Academi Frenhinol a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'r cwrs yn yr Academi yn llwyddiannus, neu (v) Diploma mewn Celfyddyd a Dylunio a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddiplomâu mewn Celfyddyd a Dylunio; neu
(b) wedi cael cymhwyster a bennir ym mharagraffau (i) i (v) o is-baragraff (a) ar 1 Ionawr 1965 neu ar ôl hynny, a chyn cael y cymhwyster hwnnw ei fod wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol y mae eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Gwaith llaw
(ii) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Guildhall (GGSM), (iii) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Llundain (GLCM), (iv) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Northern (GNSM), (v) Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerddoriaeth (M Mus, RCM), (vi) Diploma Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO), (vii) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd y Royal Manchester (GRSM (Manchester)), (viii) Diploma Graddedigion yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (GRSM), neu (ix) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Trinity (GTCL); neu
(b) wedi cael cyn 1 Ionawr 1964 gymhwyster -
(ii) Tystysgrif Addysgu Liphook, Ysgol Ewrhythmeg Dalcroze Llundain, a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 1955 neu cyn hynny, (iii) Tystysgrif Canolfan Hyfforddi Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ym 1954 neu 1955, (iv) Tystysgrif Ysgol Ewrhythmeg Llundain Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 1956 neu ar ôl hynny, (v) Diploma Addysg Gerddorol i Ysgolion Coleg a Chanolfan Gelfyddydau Dartington, (vi) Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd y Guildhall (AGSM) neu Drwyddedog Ysgol Gerdd y Guildhall (LGSM) gyda Diploma Athro arbennig (Cerddoriaeth) neu Ddiploma Athro AGSM neu LGSM (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu AGSM neu LGSM mewn Hyfforddiant Clywedol a Gwerthfawrogi Cerddoriaeth neu AGSM neu LGSM mewn Canu Dosbarth a Hyfforddi'r Llais, (vii) Diploma mewn Cerddoriaeth Coleg Technoleg Huddersfield, (viii) Diploma Athro Trwyddedog Coleg Cerdd Llundain (LLCM (TD)) mewn offeryn, neu'r llais neu (os y'i cafwyd erbyn 31 Rhagfyr 1960 fan bellaf) mewn Cerddoriaeth Ysgol neu LLCM mewn Cerddoriaeth Ysgol, (ix) Diploma Cyswllt Addysg Gerddorol Ysgol Gerdd y Northern, (x) Diploma Athro Trwyddedog yr Academi Frenhinol Gerdd (LRAM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu LRAM mewn Hyfforddiant Clywedol neu LRAM mewn Meithrin Llais a Chanu Dosbarth, (xi) Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o'r Coleg Brenhinol Cerdd (ARCM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall), (xii) Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd y Royal Manchester (ARMCM) neu ARMCM (Cerddoriaeth Ysgol), (xiii) Diploma Athro Trwyddedig Coleg Cerdd Trinity, Trwyddedog Coleg Trinity Llundain (LTCL) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu Gymrodoriaeth, FTCL neu Ddiploma Addysg Gerddorol ar gyfer Ysgolion (LTCL Mus Ed), (xiv) Diploma mewn Cerddoriaeth unrhyw un o Golegau Prifysgol Cymru, neu (xv) Trwyddedog yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (LRSM) neu Ddiploma Athro'r Ysgolion Brenhinol Cerdd (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall);
a chyn cael y cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) neu (b) yr oedd wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen ar gyfer mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Gwniadwaith a Phynciau Cartref
(b) Tystysgrif Athrawon Technegol Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1955 i 1964 a dwy Dystysgrif y Sefydliad mewn gwahanol bynciau gwniadwaith, y mae rhaid i un ohonynt fod yn dystysgrif uwch, neu (c) Tystysgrif Athro Pynciau Cartref (Addysg Bellach) Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1956 i 1970, ynghyd â'r canlynol -
(ii) Tystysgrif y Sefydliad mewn Coginio Cartref Uwch a Thystysgrif y Sefydliad mewn Gwyddor T neu Reoli Cartref.
Pynciau Gwyddonol
(b) Aelodaeth neu Aelodaeth Gysylltiol y Sefydliad Ffiseg gan gynnwys cymhwyster Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig y Sefydliad a gafwyd cyn 1 Mawrth 1971, (c) Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig Sefydliad Brenhinol Cemeg, neu (ch) Aelodaeth o'r Sefydliad Bioleg.
Lleferydd a Drama
(b) Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn yr Academi Frenhinol Gerdd, (c) Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yng Ngholeg Newydd Lleferydd a Drama, (ch) Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall (AGSM) mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Cerddoriaeth a Drama'r Guildhall cyn 1 Ionawr 1960, (d) Diploma a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Goleg Hyfforddiant Lleferydd a Drama Rose Bruford (Coleg Lleferydd a Drama Rose Bruford wedi hynny), (dd) Tystysgrif Athro a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Ysgol Gerdd y Northern tan 1968, (e) Diploma a ddyfarnwyd ym 1969 ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Manceinion, neu (f) Diploma a ddyfarnwyd o 1970 ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama ym Mholytechnig Manceinion,
a chyn cael cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (f) ei fod wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen ar gyfer mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
(b) Tystysgrif Genedlaethol Uwch, (c) Diploma mewn Technoleg a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddyfarniadau Technolegol neu'r Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol, neu (ch) Tystysgrif A Undeb neu Sefydliad Cenedlaethol Froebel a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau cwrs tair blynedd yn llwyddiannus.
19.
Yn y Rhan hon ystyr "y cymwysterau addysg gofynnol y mae eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig" yw lleiafswm o bum cymhwyster lefel gyffredin y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, neu gymhwyster cyfatebol.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 ("Rheoliadau 1999") er mwyn galluogi statws athro cymwysedig i gael ei ddyfarnu i athrawon penodol mewn ysgolion annibynnol neu athrawon addysg bellach penodol sy'n cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg bellach neu fel hyfforddwyr mewn ysgolion. O dan y Rheoliadau diwygiedig, caniateir yn awr i athro gael ei gymeradwyo i gael statws athro cymwysedig os yw'n cael ei gyflogi ar hyn o bryd fel athro mewn ysgol annibynnol, os yw wedi'i asesu fel un sy'n bodloni'r safonau ar gyfer statws athro cymwysedig ac yn dal un o'r cymwysterau a bennir yn y Rheoliadau, ar yr amod ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn ysgol annibynnol cyn 1 Medi 1989. Yn fras, y cymwysterau penodedig yw graddau a chymwysterau eraill a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu statws athro cymwysedig a gafwyd cyn 1 Ionawr 1974 a graddau a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu statws athro cymwysedig a gafwyd cyn 1 Medi 1989. Gellir dyfarnu statws athro cymwysedig i athrawon o'r fath yn unol ag argymhelliad pennaeth neu benadur ysgol annibynnol lle maent yn cael eu cyflogi, neu yn achos pennaeth neu benadur ysgol annibynnol, yn unol ag argymhelliad cadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, neu os nad oes un, perchennog yr ysgol - gweler rheoliadau 5 a 6 (sy'n mewnosod paragraffau 10 a 12 - 19 newydd yn Atodlen 3 i Reoliadau 1999). O dan y Rheoliadau diwygiedig caniateir yn awr i athrawon addysg bellach gael eu cymeradwyo i gael statws athro cymwysedig os yw amodau penodol yn cael eu bodloni. Yr amodau hynny yw bod yr athro yn cael ei gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach neu fel hyfforddwr mewn ysgol, ei fod wedi'i asesu fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig, ei fod yn dal un o'r cymwysterau a bennir yn Rhan II o Atodlen 3 neu radd, ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989, ei fod yn dal Tystysgrif mewn Addysg neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion, a bod ganddo ddigon o brofiad addysgu ym marn y corff argymell i allu addysgu disgyblion 14 - 19 oed - gweler rheoliadau 5 a 6 (sy'n mewnosod paragraffau 11 a 12 - 19 newydd yn Atodlen 3 i Reoliadau 1999). Notes: [1] 1988 p.40; Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1998 (p. 30).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/2817 (Cy.18).back
ISBN 0 11090590 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 13 December 2002 |