Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090577 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Diwrnod a benodwyd 2. 1 Tachwedd 2002 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 60 a 61 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (cynlluniau gwella hawliau tramwy) i rym mewn perthynas â Chymru. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 15 Hydref 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym, mewn perthynas â Chymru, ar 1 Tachwedd 2002, sef: (1) adran 60, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod priffyrdd lleol i baratoi ac i gyhoeddi cynllun (a adwaenir fel "cynllun gwella hawliau tramwy") o fewn 5 mlynedd ar ôl i'r adran honno ddod i rym ac i adolygu'r cynllun o leiaf unwaith pob 10 mlynedd ac sy'n rhoi p er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddyd i'r awdurdod yngl n â chynnwys cynllun a'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod eu hasesu wrth baratoi cynllun.(2) adran 61, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ymgynghori â chyrff penodedig (a chyda'r personau eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu trwy reoliadau) ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ystyried sylwadau a wneir ar gynllun drafft a rhoi sylw i ganllawiau a gyflwynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2000 p.37.back
ISBN 0 11090577 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 28 October 2002 |