Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090559 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 39(5) i (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ond a freiniwyd bellach yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Medi 2002. (2) Mae'r diwygiadau a wneir gan erthygl 2 yn effeithiol mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru. Diwygio'r Gorchymyn 2. - (1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995[3] yn unol â pharagraffau (2) i (4) isod. (2) Yn erthygl 14 (cymhwyso Rhan IV: gofyniad am sicredd gredyd) -
(b) yn lle paragraff (5) rhoddir y paragraff canlynol -
(b) an amount by which the authority determine to treat as reduced the balance of a credit approval; (c) an amount by which the authority determine to treat as reduced any credit cover provision designated in accordance with paragraff (8).";
(c) ar ôl paragraff (7) ychwanegir y paragraff canlynol -
(b) where no determination under section 56(1) is made in respect of any part of that amount, designate all or part of that amount as credit cover provision.".
(3) Yn erthygl 15 (cymhwyso Rhan IV: cynnydd yn y gymeradwyaeth gredyd sylfaenol), ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau "Part IV shall apply" rhoddir y geiriau "the provisions in Part IV as to basic credit approvals shall apply.".
(b) fn lle paragraff (i) o is-baragraff (c) rhoddir y canlynol -
(5) Ym mharagraff (5B) o erthygl 16[5], yn lle'r geiriau "paragraphs (5A) and (5B)" rhoddir y geiriau "paragraphs (5) and (5A)". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae erthygl 14 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995 ("Gorchymyn 1995") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod drefnu bod swm o sicredd credyd ar gael ar gyfer rhwymedigaethau cwmnïau sydd, at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989"), yn cael eu trin fel cwmnïau a reoleiddir gan yr awdurdod. Mae erthygl 15(1) yn addasu Rhan IV drwy ganiatáu i awdurdod ymdrin â chymeradwyaeth credyd sylfaenol fel pe bai wedi'i chynyddu â'r swm y mae'r cwmnïau a reoleiddir ganddo'n lleihau eu rhwymedigaethau. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 14 o Orchymyn 1995 er mwyn darparu mecanwaith ychwanegol y gall awdurdod ddarparu'r sicredd credyd hwnnw drwyddo. Mae'r diwygiadau, a nodir yn erthygl 2(2), yn caniatáu i awdurdod ddynodi swm yn ddarpariaeth sicredd credyd, ac i ymdrin â'r swm fel sicredd credyd, a hwnnw'n unrhyw swm yr ymdriniwyd ag ef fel pe bai wedi'i ychwanegu at gymeradwyaeth credyd sylfaenol yr awdurdod yn unol ag erthygl 15 o Orchymyn 1995, lle na wnaed unrhyw benderfyniad mewn perthynas â hi gan awdurdod o dan adran 56(1) o Ddeddf 1989 (defnyddio cymeradwyaethau credyd). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio erthygl 14(2) a 15(1) o Orchymyn 1995 er mwyn ei gwneud yn glir nad yw'r erthyglau hynny yn cymhwyso'r cyfan o Ran IV i gwmnïau o'r fath. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud diwygiadau sy'n ymwneud ag erthygl 16(1) o Orchymyn 1995. Mae'r diwygiadau'n caniatáu i awdurdod anwybyddu, o ran cwmni sy'n dod yn gwmni rheoleiddiedig mewn perthynas â'r awdurdod -
(b) rhwymedigaethau cwmni rheoleiddiedig o dan drafodyn credyd, p'un a ymrwymwyd iddo cyn neu ar ôl i'r cwmni ddod yn gwmni rheoleiddiedig.
Notes: [1] 1989 p.42. Diwygiwyd adran 39(1) (sy'n rhagnodi'r awdurdodau y mae Rhan IV o'r Ddeddf yn gymwys iddynt) gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 16, paragraff 88; gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), adran 30 a 93 a Atodlen 9; gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 73 a 120, Atodlen 10, paragraff 31 ac Atodlen 24; gan Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) adran 67; gan Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) Atodlen 12, paragraff 4 a 5; gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29) adran 111 a chan O.S. 1996/633.back [3] O.S. 1995/849, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/621.back [4] Mewnosodwyd is-baragraff (bb) gan O.S. 1996/621.back [5] Mewnosodwyd paragraff (5B) gan O.S. 1996/621.back
ISBN 0 11090559 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 28 August 2002 |