Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1735 (Cy.165)

      Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090539 3. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1735 (Cy.165)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 4 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 23 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2), (4) a (6) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 7A i, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau ag y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 23 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1993
    
2. Caiff Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993[3] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Yr amgylchiadau ar gyfer gwneud cynigion
     3. Yn rheoliad 4A - 

Y cyfnodau ar gyfer gwneud cynigion: rhestr 2000 a rhestrau sy'n dilyn
     4. Yn lle rheoliad 4C(2), rhowch - 

Yr amser pan fo'r addasiad i gael effaith: cyffredinol
    
5.  - (1) Ar ôl rheoliad 13A(4), mewnosodwch - 

    (2) Yn rheoliad 13A(13) - 

    (3) Ar ôl is-baragraff (13), mewnosodwch y paragraff canlynol - 

Apelau ynghylch ardystiad
    
6. Yn rheoliad 30(2), yn lle "six months" rhowch "a year".

Apelau
    
7. Ym mharagraff (a) o'r diffiniad o apêl yn rheoliad 2(1) ac yn rheoliadau 2(3)(a), 34(5), 38(1)(b), 40(12), 44(2) a 47(1), ar ôl "Regulations 1994" mewnosodwch "or under regulation 12 of the Non-Domestic Rating (Chargeable Amounts) (Wales) Regulations 1999[5]".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Gorffennaf 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 yn rheoli newid rhestri ardrethu annomestig. Maent yn darparu ar gyfer newid rhestri gan swyddogion prisio, cynigion i newid gan bersonau eraill ac apelau i dribiwnlysoedd prisio lle ceir anghytundeb rhwng cynnig gan swyddog prisio a'r cynigydd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru - 

    (a) i gynnwys sail newydd ar gyfer gwneud cynnig i newid rhestr (rheoliad 3);

    (b) i ymestyn y cyfnod pryd y gellir gwneud cynnig o dan reoliad 4A(1)(c) (cynnig i addasu gwerth trethiannol pan fo'r gwerth sy'n cael ei ddangos yn y rhestr yn anghywir o ganlyniad i newid blaenorol a wnaed gan swyddog prisio) (rheoliad 4);

    (c) i ddiwygio rheoliad 13A (sy'n darparu ar gyfer y dyddiad pan gaiff newid, os yw'n llwyddiannus, effaith yn y rhestr ardrethu) (rheoliad 5);

    (ch) ymestyn y cyfnod pryd y gellir gwneud apêl yn erbyn ardystiad (rheoliad 6); a

    (d) gwneud mân newidiadau eraill (rheoliad 7).


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/291; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/1809, 1995/609, 1995/623, 2000/792 (Cy. 29) a 2001/1203 (Cy .64).back

[4] O.S. 2000/1097 (Cy.75) fel y 'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2357 (Cy. 195).back

[5] O.S. 1999/3454 (Cy. 51).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090539 3


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 August 2002