Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090481 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1), (2), 19(1), (2), (4), (5), (6), 20(1), (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) y rheolwr cyngor os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth maer a rheolwr cyngor; (c) arweinydd y weithrediaeth os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth arweinydd a chabinet a bod y p er i wneud y trefniadau yn codi yn rhinwedd is-baragraffau (b), (c) neu (ch) o reoliad 4(1);
Y p
(b) oni bai bod y maer etholedig yn cyfarwyddo fel arall, gweithrediaeth yr awdurdod lleol, aelod o'r weithrediaeth heblaw'r maer etholedig, neu bwyllgor o'r weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau a all gael eu cyflawni, yn rhinwedd adran 14 o Ddeddf 2000, gan y weithrediaeth, yr aelod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw.
Y p
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y weithrediaeth, aelod o'r weithrediaeth neu bwyllgor o'r weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau y mae arweinydd y weithrediaeth wedi trefnu iddynt gael eu cyflawni gan y weithrediaeth, yr aelod hwnnw, neu yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw; (c) yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pwyllgor o'r weithrediaeth, mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau y mae'r weithrediaeth wedi trefnu iddynt gael eu cyflawni gan y pwyllgor hwnnw yn rhinwedd adran 15(5)(a) o Ddeddf 2000; (ch) arweinydd y weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth i'r graddau nad ydynt wedi'u dyrannu drwy ddarpariaeth a wnaed mewn trefniadau gweithrediaeth.
(2) Os yw arweinydd y weithrediaeth yn gwneud unrhyw drefniadau o dan reoliad 6 neu 7 neu'n gwneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11, caiff gyfarwyddo, bryd hynny neu ar unrhyw adeg ddilynol, nad yw paragraff (1)(b) neu (c) uchod i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau sy'n dod o dan y trefniadau hynny neu nad yw i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny mewn unrhyw achosion neu amgylchiadau y gallai arweinydd y weithrediaeth eu cyfarwyddo.
(b) gweithrediaeth yr awdurdod lleol mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau a all gael eu cyflawni, yn rhinwedd adran 16 o Ddeddf 2000, gan y weithrediaeth.
Cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal
(b) i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw; (c) i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw a bod gan yr awdurdod arall hwnnw weithrediaeth; (ch) i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac nad oes gan yr awdurdod arall hwnnw weithrediaeth.
(3) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y person a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.
(b) os yw'r swyddogaethau yn swyddogaethau i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw.
(2) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal yr awdurdod a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.
(b) mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.
(3) Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau'r personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y person sy'n gwneud y trefniadau ar ran yr awdurdod hwnnw.
(b) lle nad oes yr un o'i aelodau yn aelod o un o'r awdurdodau lleol o dan sylw ond nad yw'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw,
fel pe bai cyfarfodydd y cyd-bwyllgor hwnnw yn gyfarfodydd preifat o bwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol, oni bai bod yr holl weithrediaethau hynny yn cytuno fel arall.
(b) caiff y rheolwr cyngor naill ai fod yn aelod o'r cyd-bwyllgor neu drefnu i un arall o swyddogion yr awdurdod lleol fod yn aelod o'r cyd-bwyllgor, a bydd yr aelod hwnnw yn aelod gyda phleidlais o'r pwyllgor hwnnw.
(3) Os -
(b) yw'r swyddogaethau hynny yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw; ac (c) naill ai -
(ii) nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn fwy na dwy ran o bump o gyfanswm poblogaeth yr awdurdod yn ôl yr amcangyfrif hwnnw,
caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion yngl
(4) Os oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw a bod cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y pwyllgor hwnnw yn cael eu penodi gan yr awdurdod, ni fydd y gofynion yngl (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn darparu i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau ("trefniadau gweithrediaeth") ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth o'r awdurdod, sef trefniadau y mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth odanynt. O dan adrannau 18 a 19 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy'n galluogi gweithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru, neu bwyllgor neu aelod penodedig o weithrediaeth o'r fath, i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth yn gyfrifoldeb i'r awdurdod, gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod neu gan awdurdod lleol arall. Mae adran 19 o'r Ddeddf hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall. O dan adran 20 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd. Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn pennu'r personau sydd â'r pwer i wneud trefniadau o'r fath yn achos gweithrediaeth maer a chabinet, gweithrediaeth arweinydd a chabinet a gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yn y drefn honNo. Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw. Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall. Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau, o dan amgylchiadau penodedig, i swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall. Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 neu 8 i swyddogaethau awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 9 yn darparu bod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw at ddibenion adrannau 14 i 16 o'r Ddeddf. Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 10 yn darparu i'r dasg o arfer y swyddogaethau hynny gael ei dirprwyo i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r awdurdod lleol arall hwnnw. Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd neu gan gyd-bwyllgor. Mae Rheoliad 12 yn darparu ar gyfer aelodaeth cyd-bwyllgor a benodir yn unol â threfniadau a wneir o dan Reoliad 11. Mae Rheoliad 13 yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001. Notes: [1] 2000 p.22back [3] O.S. 2001/2290 (Cy.178)back [4] O.S. 2001/2287 (Cy.175)back
ISBN 0 11090481 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 7 May 2002 |