Offerynnau Statudol 2002 Rhif 107 (Cy.12)

      Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090416 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 107 (Cy.12)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud 22 Ionawr 2002 
  Yn dod i rym 18 Chwefror 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000[3] yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

     3. Ar ddiwedd rheoliad 3 ychwanegir y paragraff canlynol - 

        " (6) Mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2001  -  2002 cymerir y cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau fel cyfeiriad at 378 o sesiynau."

     4. Ychwanegir y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 4 - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Ionawr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 ("Rheoliadau 2000"). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.

Diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau 2000 er mwyn lleihau hyd y flwyddyn ysgol 2001 - 2002 gan un diwrnod, o 380 o sesiynau i 378 o sesiynau, ar gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal felly. Bydd y rheoliad hwnnw'n caniatáu i'r ysgolion hynny gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau yn ystod blwyddyn ysgol 2001 - 2002 mewn perthynas â gŵ yl banc jiwbili aur y Frenhines sy'n digwydd yn ystod wythnos gwyliau hanner tymor, ddydd Llun 3 Mehefin 2002.

Ychwanegir rheoliad 5 newydd i Reoliadau 2000 sydd yn ymestyn y mwyafrif o sesiynau y gellir eu neilltuo yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi gan ddwy sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2002 - 2003 ar gyfer hyfforddi sydd yn ymwneud ag addysgu plant yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol.


Notes:

[1] 1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Mae adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio "regulations" i olygu rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1323 (Cy.101).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090416 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 7 February 2002