Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090376 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(b) a fyddai, pe bai'r awdurdod hefyd yn darparu'r gofal nyrsio mewn cysylltiad â'r llety hwnnw, yn gorfod gwneud taliadau o dan adran 22[5] (taliadau sydd i'w talu am lety) neu adran 26[6] o Ddeddf 1948 naill ai ar y gyfradd safonol neu ar gyfradd is nad yw'n llai na'r gyfradd safonol llai £100.
(2) Er y gall person beidio â bod yn bodloni is-baragraff (b) o baragraff (1) uchod, bydd adran 49 o Ddeddf 2001 yn dal yn gymwys i'r person hwnnw. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 3 Rhagfyr 2001 fel y diwrnod y daw adran 49 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001") i rym a'r 19 Rhagfyr 2001 fel y diwrnod y daw is-adrannau (2) i (10) o adran 50 o Ddeddf 2001 i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 49 o Ddeddf 2001 yn tynnu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig o blith y gwasanaethau a all gael eu darparu gan awdurdodau lleol yn unol â deddfiadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal cymunedol. Diffiniad adran 49(2) o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig yw unrhyw wasanaethau a ddarperir gan nyrs gofrestredig sy'n golygu darparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo gwaith i ddarparu gofal. Nid yw'r diffiniad yn cynnwys unrhyw wasanaethau nad oes angen iddynt gael eu darparu gan nyrs gofrestredig, o roi sylw i'w natur ac i amgylchiadau eu darparu. Mae erthygl 2(1) yn dwyn adran 49 i rym yng Nghymru mewn perthynas â phersonau sy'n cael llety o dan adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ("Deddf 1948") a lle ceir amgylchiadau penodol. Gyda rhai eithriadau, gall llety felly gael ei ddarparu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd, y mae arnynt angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, oherwydd eu hoedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill. Gall llety felly gael ei ddarparu hefyd ar gyfer mamau sy'n disgwyl a mamau sy'n magu babi y mae arnynt angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall. Yr amgylchiadau penodol y mae erthygl 2(1) yn gymwys iddynt yw lle byddai personau o'r fath yn gorfod gwneud taliadau am eu llety ac am y gofal nyrsio mewn cysylltiad â'r llety hwnnw (o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf 1948) ar y gyfradd safonol neu ar gyfradd is nad yw'n llai na'r gyfradd safonol llai £100. Mae erthygl 2(2) yn darparu bod adran 49 yn dal yn gymwys i berson hyd yn oed os bydd yn peidio â bodloni erthygl 2(1)(b). Mae erthygl 3 yn dwyn is - adrannau (2) i (10) o adran 50 i rym yng Nghymru. Effaith is-adran (1) sy'n cael ei chychwyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol o 8 Ebrill 2002 ymlaen, yw dirwyn i ben effaith adran 26A o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae adran 26A yn atal cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (a chynghorau perthnasol yn Lloegr) rhag darparu llety preswyl ar gyfer personau a oedd mewn llety o'r fath ar 31 Mawrth 1993. Mae effaith y ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer yr Alban hefyd yn dirwyn i ben o 8 Ebrill 2002 ymlaen. Mae is-adran (2) o adran 50 yn darparu mai person y mae adran 26A o Ddeddf 1948 (neu'r ddarpariaeth gyfatebol yn yr Alban) yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod daw is-adran (1) i rym ("y diwrnod penodedig") yw "person cymwys" at ddibenion yr adran honno. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol sicrhau gwasanaethau gofal cymunedol i bersonau cymwys o'r diwrnod penodedig ymlaen neu cyn gynted wedyn ag y bydd yn rhesymol ymarferol. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol nodi ac asesu personau cymwys yn eu hardal. Os oes gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu darparu o dan is-adran (3), mae is-adran (5) yn darparu y bydd trefniadau preifat person gyda'r cartref preswyl o dan sylw yn dod i ben. Mae is-adran (6) yn darparu y bydd rhaid i'r awdurdod lleol perthnasol wneud taliadau os nad oes asesiad wedi'i wneud erbyn y diwrnod penodedig. Mae is-adran (7) yn caniatáu adennill unrhyw daliadau a wneir o dan is-adran (6) a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau. Mae is-adran (8) yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud fel nad yw adran 50 yn gymwys i bersonau o ddisgrifiadau a ragnodir yn y rheoliadau hynny. Mae is-adran (9) yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ynghylch ystyr "ordinary residence" at ddibenion yr adran ac ynghylch rhagnodi symiau sy'n daladwy o dan is-adran (7). Mae is-adran (10) yn darparu diffiniadau at ddibenion yr adran. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Y Gorchymyn hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i'w wneud mewn perthynas â Chymru o dan Ddeddf 2001. Mae amryw byd o ddarpariaethau yn Neddf 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117) ac O.S. 2001/3752(C.122). Notes: [1] 2001 p.15.back [3] Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 44(3).back [4] Diwygiwyd adran 21(1) gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) adran 195(6), Atodlen 23, paragraff 2(1); Deddf Tai (Personau Digartref) 1977 (p.48), adran 20(4); Deddf Plant 1989 (p.41), adran 108(5), Atodlen 13, paragraff 11, a Deddf 1990, adran 42(1).back [5] Diwygiwyd adran 22(3) gan Ddeddf 1990, adran 44(4).back [6] Diwygiwyd adran 26(3) gan Ddeddf 1990, adran 42(4).back
ISBN 0 11090376 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 5 December 2001 |