Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001, ISBN 0 11090383 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 [1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - Teitl, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 a daw i rym ar 12 Medi 2001. (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn. (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn. (4) Yn y Gorchymyn hwn:
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Nodyn i golofn 1 (1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 2001/2002 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn uniongyrchol yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid. Nodiadau i golofn 3 (1) Didynner £126 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl n â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
n â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
n â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.
n â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
n â graddfa is y premiwm anarddwysáu.
n â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu.
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £91 ac (lle mae'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm yngl n â phremiwm anarddwysáuestyniad) y swm o £20 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa is) neu £40 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa uwch).
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2001 hyd 11 Medi 2002 yn gynhwysol. Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw. Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn. Notes: [1] 1986 p.5.back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [3] OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1669/00 (OJ Rhif L193, 29.7.00, t.8).back [4] OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back [5] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21.back
ISBN 0 11090383 8
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 17 December 2001 |