Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2538 (Cy.213) (C.83)

      Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090332 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2538 (Cy.213) (C.83)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 10 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [1]:

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000.

Y diwrnodau penodedig
    
2.  - (1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon i rym mewn perthynas â Chymru ar 31 Gorffennaf 2001.

    (2) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (4) o'r erthygl hon i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 2001.

    (3) Dyma'r darpariaethau - 

    (4) Dyma'r darpariaethau - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


John Marek
Islywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Gorffennaf 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi diwrnodau i rai o ddarpariaethau Rhan IV (gweithwyr gofal cymdeithasol) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ddod i rym. Ymwneud â hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru y mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym.

31 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:

    (a) Adran 63, sy'n caniatáu i Gyngor Gofal Cymru ('y Cyngor) gymeradwyo cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol yn unol â rheolau a wneir ganddo;

    (b) Adran 66, sy'n caniatáu i'r Cyngor wneud darpariaeth, drwy reolau, ar gyfer ymweld â mannau lle mae cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu cynnal;

    (c) Adran 71, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch natur y rheolau y caiff y Cyngor eu gwneud. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau cydsyniad y Cynulliad cyn y gall unrhyw reolau gael eu gwneud gan y Cyngor.

1 Hydref 2001 yw'r diwrnod a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:

    (a) Adran 67, sy'n rhoi nifer o swyddogaethau i'r Cynulliad mewn perthynas â hyfforddiant gwaith gofal cymdeithasol. Mae'n caniatáu i'r Cynulliad annog personau i gymryd rhan mewn cyrsiau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a darparu cyrsiau o'r fath. Mae hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad dalu grantiau a lwfansau eraill i bersonau sy'n preswylio yng Nghymru i sicrhau eu hyfforddiant mewn gwaith gofal cymdeithasol. Caiff y Cynulliad ddirprwyo'i swyddogaethau o dan y ddarpariaeth hon i'r Cyngor;

    (b) Adran 70(1), sy'n darparu i rai o ddarpariaethau'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol ('CCETSW') beidio â chael eu harfer mwyach mewn perthynas â Chymru (caiff CCETSW ei ddileu drwy gyfrwng Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 70(2) o'r Ddeddf). Mae'r swyddogaethau y mae i roi'r gorau i'w harfer yn debyg i'r swyddogaethau sy'n cael eu rhoi i'r Cyngor a'r Cynulliad gan y darpariaethau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym.



    NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

    (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir ag '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); a chafodd y rhai a ddilynir â '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82).

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn
Adrannau 1 - 5 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 7(7) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 8 ) (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 9(3) - (5) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 11 - 12 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 14 - 15 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 16 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 22 - 23 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 25 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 33 - 35 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 36 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 38(c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 39 (yn rhannol) (d) 31 Gorffennaf 2001
Adran 39 (y gweddill) (d) 31 Awst 2001
Adran 40 (yn rhannol) (b) 1 Chwefror 2001
Adran 40 (y gweddill) (b) 28 Chwefror 2001
Adran 41 (b) 28 Chwefror 2001
Adrannau 42 - 43 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 48 - 52 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 54(1), (3) - (7) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) 1 Ebrill 2001
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) 13 Tachwedd 2000
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 79(3), (4) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 98 (ch) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 107 -  108 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 112 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 113 (2) - (4) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 114 (yn rhannol) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 114 (y gweddill) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 115 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) 28 Chwefror 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001

Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn
Adran 80(8) 2 Hydref 2000
Adran 94 2 Hydref 2000
Adran 96 (yn rhannol) 15 Medi 2000
Adran 96 (y gweddill) 2 Hydref 2000
Adran 99 15 Medi 2000
Adran 100 2 Hydref 2000
Adran 101 2 Hydref 2000
Adran 103 2 Hydref 2000
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) 2 Hydref 2000
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) 2 Hydref 2000

Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55).


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r per yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090332 3


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 31 August 2001