Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090331 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) yn athro neu athrawes gymwysedig yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;
(b) wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon addysg bellach
(b) wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn gymwys yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac (c) wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach ac sydd wedi'i leoli yng Nghymru.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr "cymwys" yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[6].
(b) sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sy'n arwain person sy'n ei gwblhau'n llwyddiannus i ddod yn athro neu athrawes gymwysedig; neu (c) sy'n dilyn (ond nad yw wedi cwblhau) cwrs o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.
(2) Rhaid peidio â thalu unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw bryd a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol a chan gynnwys unrhyw fanylion a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiedir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu (c) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.
Swm y grant a thaliadau grant
(b) yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac (c) yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn cyfandaliad neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall yng Nghymru sy'n darparu addysg bellach. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan y Rheoliadau hyn caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau fel cymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant sy'n seiliedig mewn colegau ac sydd wedi'u dylunio'n unswydd i'w paratoi i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliadau addysg bellach neu mewn mannau eraill. O dan y Rheoliadau, caiff y Cynulliad Cenedlalaethol dalu'r grant i gyd tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant neu, ar y llaw arall, dalu rhan o'r grant tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant a thalu rhan ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r hyfforddiant ac ymgymryd â swydd addysgu. Yn yr achos olaf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos person sy'n cael rhandaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau tebyg yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, dalu unrhyw randaliadau sy'n weddill y byddai gan y person hwnnw hawl iddynt o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y byddai grant wedi'i dalu ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn. Mae Rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn. Mae Rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu grantiau fel cymhellion i bersonau sy'n gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon o'r math y cyfeirir atynt uchod. Mae Rheoliad 4 yn nodi nifer o achosion lle na ellir talu grantiau o dan Reoliad 3, ond yn darparu nad yw hyn yn cyfyngu ar b er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster ar gyfer grantiau o'r fath.Mae Rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan Reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig. Mae Rheoliad 6 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu swm y grant, y gellir ei dalu naill ai mewn cyfandaliad neu mewn rhandaliadau (y gellir gohirio rhai ohonynt hyd nes bod y person wedi cwblhau'r cwrs ac wedi ymgymryd â swydd addysgu). Mae hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfeirio taliadau'r grant drwy'r sefydliad sydd o dan sylw. Notes: [1] 1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [4] 1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.back [5] Gellir cael rhestr o'r sefydliadau achrededig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.back [6] 1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001 (O.S. 2001/951) yw'r Rheoliadau cyfredol.back
ISBN 0 11090331 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 3 September 2001 |