Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001, ISBN 0 11 090287 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), 50(4), 81(2) ac 81(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl cynnal y cyfryw ymgynghori ag sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chan ei fod wedi'i fodloni fod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion sydd am y tro wedi'u pennu mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno[2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
(b) cyngor bwrdeistref sirol, (c) cyngor cymuned, (ch) awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947[3], a (d) awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 [4]); ac
Cod ymddygiad enghreifftiol Dehongli Yn y cod hwn -
(b) yn aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod ac yn cynrychioli'r awdurdod arno,
ac y mae ganddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn unrhyw un o gyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw;
(b) o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod; (c) o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, gyd-bwyllgor, gyd-is-bwyllgor neu bwyllgor ardal o'r awdurdod perthnasol neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod ; neu (ch) pan fydd aelodau neu swyddogion o'r awdurdod yn bresennol.
Darpariaethau Cyffredinol 1. Rhaid i aelodau gadw'r cod ymddygiad hwn pryd bynnag y byddant:
(b) yn ymgymryd â rôl aelod yr etholwyd hwy neu y penodwyd hwy iddi; neu (c) yn gweithredu fel cynrychiolwyr yr awdurdod.
2.
Rhaid i'r cod ymddygiad hwn, oni nodir fel arall, fod yn gymwys i'r gweithgareddau hynny y mae aelod yn ymgymryd â hwy yn rhinwedd ei swydd fel aelod yn unig . 4. Rhaid i aelodau o'r awdurdod:
(b) peidio â gwneud dim sy'n cyfaddawdu, neu sy'n debygol o gyfaddawdu, didueddwch gweithwyr cyflogedig yr awdurdod.
5.
Rhaid i aelodau:
(b) peidio â rhwystro unrhyw berson rhag cael gweld gwybodaeth y mae gan y person hwnnw hawl i'w gweld yn ôl y gyfraith.
6.
- (1) Rhaid i aelodau:
(b) yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio ag ymddwyn mewn dull y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy'n dwyn anfri ar swydd aelod neu ar yr awdurdod; (c) adrodd i'r Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac i swyddog monitro'r awdurdod ar unrhyw ymddygiad gan aelod arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu methiant i gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn; (ch) adrodd, p'un ai drwy weithdrefn adrodd gyfrinachol yr awdurdod neu'n uniongyrchol i'r awdurdod priodol, ar unrhyw ymddygiad gan berson arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu ymddygiad troseddol; (d) mewn perthynas ag (c) uchod peidio â gwneud unrhyw gwynion blinderus neu faleisus yn erbyn personau eraill.
(2) Rhaid i aelod o'r awdurdod (heblaw aelod sy'n destun ymchwiliad gan swyddog monitro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[7]) gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wneir gan swyddog monitro'r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad ag ymchwiliad o'r fath. 7. Rhaid i aelodau:
(b) pan fyddant yn defnyddio neu'n awdurdodi defnyddio adnoddau yr awdurdod gan aelod arall, wneud hynny'n ddarbodus ac yn unol â'r gyfraith a gofynion yr awdurdod; ac (c) sicrhau nad yw adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n amhriodol at eu dibenion preifat eu hunain, eu teulu, eu cyfeillion a'r personau y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy.
8.
Wrth wneud penderfyniadau rhaid i aelod:
(b) gwneud penderfyniadau gan roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a ddarperir gan swyddogion yr awdurdod - yn benodol gan y canlynol:
(ii) Swyddog Monitro'r awdurdod yn gweithredu yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[9]; (iii) Prif Swyddog Cyfreithiol yr awdurdod y dylid ymgynghori ag ef os oes unrhyw amheuaeth ynghylch p er yr awdurdod i weithredu, neu ynghylch a yw'r cam a gynigir yn dod o fewn y fframwaith polisi y cytunwyd arno gan yr awdurdod; os gallai canlyniadau cyfreithiol gweithredu neu fethu â gweithredu gan yr awdurdod gael ôl-effeithiau pwysig;
(c) rhoi rhesymau dros benderfyniadau yn unol â gofynion yr awdurdod ac, yn achos cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, yn unol â rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[10].
9.
Rhaid i aelodau:
(b) osgoi derbyn rhoddion oddi wrth neb, na lletygarwch (heblaw'r lletygarwch swyddogol, megis derbyniad dinesig neu ginio gweithio, a awdurdodir gan yr awdurdod) na buddiannau neu wasanaethau materol iddynt eu hunain neu i unrhyw berson y mae'r aelod yn byw gyda hwy a fyddai'n eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol, neu y byddai'n rhesymol iddo ymddangos fel pe bai'n gwneud hynny.
10. Ym mhob mater rhaid i aelodau ystyried a oes ganddynt fuddiant personol, ac a yw cod ymddygiad yr awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatgelu'r buddiant hwnnw. 11. Mae gan aelod fuddiant personol mewn mater os yw'r aelod hwnnw'n rhag-weld y gellid yn rhesymol ystyried y byddai penderfyniad arno yn debygol o roi mantais neu anfantais:
(b) i gorff sy'n cyflogi'r personau hynny, neu y mae gan y personau hynny unrhyw radd o berchenogaeth, rheolaeth neu ofalaeth drosto,
i fwy o raddau nag sydd gan drethdalwyr eraill y cyngor, ardrethdalwyr neu drigolion ardal yr awdurdod.
(b) â chorff y maent yn dal swydd o reolaeth neu ofalaeth gyffredinol arno; (c) â chorff y maent wedi'u penodi neu wedi'u henwebu iddo gan yr awdurdod fel cynrychiolydd.
13.
Rhaid i aelodau ystyried bod ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud:
(b) ag unrhyw berson sy'n eu cyflogi neu sydd wedi'u penodi, unrhyw ffyrm y maent yn bartner ynddi, ac unrhyw gwmni y maent yn gyfarwyddwr arno sy'n derbyn tâl; (c) ag unrhyw berson, heblaw awdurdod perthnasol, sydd wedi gwneud taliad iddynt mewn perthynas â'u hetholiad neu unrhyw gostau a dynnwyd wrth gyflawni eu dyletswyddau; (ch) ag unrhyw gorff corfforaethol sydd â lle busnes neu dir yn ardal yr awdurdod, y mae gan yr aelod fuddiant llesiannol mewn dosbarth o warannoedd y corff hwnnw sy'n werth mwy na £25,000 neu un ganfed ran o gyfanswm cyfalaf cyfrannau dyroddedig y corff hwnnw (pa un bynnag yw'r isaf); (d) ag unrhyw gontract am nwyddau, gwasanaethau neu weithfeydd a wnaed rhwng yr awdurdod a'r aelod, ffyrm y mae'r aelod yn bartner ynddi, cwmni y mae'r aelod yn gyfarwyddwr arno, neu gorff sy'n dod o fewn is-baragraff (ch); (dd) ag unrhyw dir y mae gan yr aelod neu un o deulu'r aelod fuddiant llesiannol ynddo ac sydd yn ardal yr awdurdod; (e) ag unrhyw dir y mae'r awdurdod yn landlord arno a ffyrm y mae'r aelod yn bartner ynddi, cwmni y mae'r aelod yn gyfarwyddwr arno, neu gorff sy'n dod o fewn is-baragraff (ch) yn denant arno; (f) ag unrhyw dir yn ardal yr awdurdod y mae gan yr aelod drwydded arno (yn unigol neu ar y cyd ag eraill) i'w feddiannu am fis neu fwy; ac (ff) ag unrhyw ymweliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig y mae'r awdurdod wedi talu amdano neu'n mynd i dalu amdano.
14.
Rhaid i aelodau ystyried bod ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw aelodaeth, neu safle o reolaeth neu ofalaeth gyffredinol sydd ganddynt mewn unrhyw gorff. Mae cyrff o'r fath yn cynnwys:
(b) unrhyw gorff y mae un o'i brif ddibenion yn cynnwys dylanwadu ar farn neu bolisi cyhoeddus megis grwp lobïo ; (c) unrhyw undeb llafur[11] neu gymdeithas broffesiynol; (ch) unrhyw gwmni, cymdeithas ddiwydiannol a darbodus[12] neu gorff arall y mae ganddo ddibenion elusennol.
15.
Gall aelodau ystyried nad oes ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud:
(ii) bod yna nifer arwyddocaol o denantiaid nad ydynt yn aelodau a fyddai'n cael eu heffeithio mewn perthynas â'r mater yn yr un modd neu mewn modd tebyg â'r aelod o dan sylw;
(b) â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â phrydau bwyd ysgolion, cludiant ysgolion a chostau teithio ysgolion, os yw'r aelod yn rhiant â phlentyn mewn addysg llawn amser, oni bai -
(ii) bod y mater yn ymwneud ag amgylchiadau penodol yr aelod ei hun yn unig;
(c) â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â thâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[13], -
(ii) nad yw'r mater yn ymwneud ag amgylchiadau penodol yr aelod ei hun yn unig; ac
(ch) â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â lwfans neu daliad a wneir o dan Adrannau 173 i 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[14] neu Adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
16.
- (1) Rhaid i aelod sydd â buddiant personol mewn mater a bennir ym mharagraff 12 ac sy'n mynd i gyfarfod o'r awdurdod pan yw'r mater yn cael ei drafod, ddatgelu bodolaeth a natur y buddiant ar ddechrau'r drafodaeth honno, neu pan amlygir y buddiant. Mewn achos o'r fath caiff aelod siarad ond rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.) Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Yr awdurdodau perthnasol cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau heddlu. Mae'n rhaid i god ymdddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf. Mae'r Gorchymyn hwn yn cyhoeddi cod ymddygiad enghreifftiol i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Mae'r cod ymddygiad enghreifftiol mewn tair ran. Mae Rhan I o'r cod yn ymdrin â dehongli. Mae Rhan II o'r cod yn ymdrin â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i aelodau ac aelodau cyfetholedig gadw'r cod, ynghyd â materion ymddygiad sy'n ymwneud â hybu cydraddoldeb a pharch at eraill, atebolrwydd a bod yn agored, dyletswydd aelodau ac aelodau cyfetholedig i gynnal y gyfraith, anhunanoldeb a stiwardiaeth, gwrthrychedd a gwedduster ac uniondeb. Mae Rhan III o'r cod yn ymdrin â'r amgylchiadau pan gaiff aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod perthnasol ystyried nad oes ganddynt fuddiant personol mewn mater a phan fydd rhaid iddynt ystyried bod ganddynt fuddiant o'r fath. Mae'r cod yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan ddylid datgelu buddiant personol, yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau cyfetholedig gofrestru buddiannau o'r fath yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan adran 81(1) o'r Ddeddf ac, os yw'n gymwys, i dynnu'n ôl rhag ystyried y mater. Mae Rhan III o'r cod yn ymdrin hefyd â chofrestru rhoddion a lletygarwch. Notes: [1] 2000 p.22.back [2] Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2276 (Cy.166)).back [6] Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.back [7] Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2281(Cy.171)).back [10] Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurodau Lleol (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2290 (Cy.178)).back [11] Diffinnir "trade union" yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cyd-grynhoi) 1992 (p.52).back [12] Wedi'u cofrestru o dan Ddeddfau Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 i 1978.back [15] Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001.back
ISBN 0 11 090287 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 30 July 2001 |