Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001, ISBN 0 11090298 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai
(b) bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol; (c) bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai; (ch) bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 sy'n gymwys iddo, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar y safle, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon; (d) bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei angen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth am yr awdurdodiad o dan reoliad 8(2)(a) o'r Rheoliadau hyn.
(2) Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi rhif penodol i'r safle.
(b) ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn -
(b) nodi pob gofyniad a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle; (c) mewn perthynas â phob gofyniad a bennir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac (ch) datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.
Yr hawl i apelio
(b) os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r busnes a oedd yn cael ei redeg ar y safle y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei gyfer yn cael ei redeg yno mwyach.
Cofrestru
(b) o bob awdurdodiad a dynnir yn ôl, a atelir neu a ddilëir gan yr awdurdod bwyd; (c) o bob hysbysiad a roddir gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 5(2) o'r Rheoliadau hyn; (ch) o unrhyw newid ym mherchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar safle awdurdodedig; (d) o unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad sy'n dod i sylw'r awdurdod bwyd yn yr wybodaeth yn y gofrestr ynghylch unrhyw safle a awdurdodwyd gan yr awdurdod bwyd.
(3) Rhaid i bob hysbysiad gan yr awdurdod bwyd i'r Asiantaeth o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
(b) enw perchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; (c) unrhyw enw masnachu neu enw arall (heblaw enw'r perchennog) yr adnabyddir y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle wrtho; (ch) y rhif adnabod a ddyrannwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2) o'r Rheoliadau hyn; (d) ai fel canolfan gasglu ynteu fel tanerdy y mae'r safle wedi'i awdurdodi; (dd) y dyddiad y mae'r awdurdodiad yn dod yn effeithiol a'r dyddiad y daeth unrhyw atal, tynnu'n ôl, neu ddileu ar yr awdurdodiad yn effeithiol.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth gymryd mesurau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Benderfyniad y Comisiwn 99/724/EC (OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32) - "Penderfyniad y Comisiwn" - i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar y Deyrnas Unedig neu'n newid y rhwymedigaethau sydd arni. Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) drwy osod gofynion newydd sy'n ymwneud â gelatin a fwriedir i bobl ei fwyta. Mae darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996 er mwyn rhoi eu heffaith i'r newidiadau a wneir gan Benderfyniad y Comisiwn. Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi pwer i'r awdurdodau bwyd yng Nghymru roi, atal, tynnu'n ôl a dileu awdurdodiadau i ganolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer gweithgynhyrchu gelatin yn ddarostyngedig i ofynion Penderfyniad y Comisiwn. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodir fel hyn. Mae Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 1998 (1998 p.38) a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN. Notes: [1] OS 1999/2788.back [3] A sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [4] 1990 p.16. Mae adran 5 yn disgrifio'r awdurdodau sy'n awdurdodau bwyd at ddibenion y Ddeddf.back [5] OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32.back [6] OS 1996/3124, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090298 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 6 August 2001 |