Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090221-1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym at ddibenion Rheoliad 2(6) ar 12 Ebrill 2001 ac at bob diben arall ar 9 Ebrill 2001. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[3]. (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) mewnosodir ar ôl y diffiniad o "partner", y diffiniad canlynol -
(3) Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur "£16,000" rhoddir y ffigur "£18,500".
(2) In the case of a qualifying resident
(b) who subsequently becomes a permanent resident again at any time within the period of 52 weeks from the end of the first period of permanent residence,
the value of his home for such period (if any) which when added to the period disregarded under sub-paragraph (1) in respect of his first period of permanent residence does not exceed 12 weeks in total.
(b) who subsequently becomes a permanent resident again at any time after a period of more than 52 weeks from the end of the first period of residence,
the value of his home for a period of 12 weeks beginning with the day on which the second period of permanent residence begins.
(6) Yn yr Atodlen 4 a enwyd, ar ôl paragraff 20, mewnosodir y paragraff canlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person ("y preswylydd") i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg. Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £16,000. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf o £16,000 i £18,500. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sy'n cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio terfynau uchaf ac isaf cyfalaf o'r fath fel bod pob £250 cyflawn rhyngddynt, neu unrhyw ran ohono nad yw'n £250 cyflawn, yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1. Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno categorïau pellach o gyfalaf hefyd sydd i'w hanwybyddu wrth asesu adnoddau preswylydd. Mae gwerth unrhyw annedd a fyddai fel arall yn cael ei feddiannu gan y preswylydd fel ei unig neu brif breswylfa i'w anwybyddu am gyfnod o 12 wythnos o dan yr amgylchiadau a bennir yn y Rheoliadau. Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer anwybyddu taliadau sy'n cael eu gwneud o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd â chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â phersonau a ddioddefodd neu sy'n dioddef gan glefyd amrywiadol Creutzfeldt-Jakob. Notes: [1] 1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi.back [2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/964, 1993/2230, 1994/825, 1994/2386, 1995/858, 1995/3054, 1996/602, 1997/485, 1998/497, 1998/1730, 2001/276 (Cy.12), ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, gan O.S. 2001/58.back
ISBN 0-11-090221-1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 8 June 2001 |