Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001, ISBN 0 11 090257 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y prif Orchymyn" yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912[3] (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno). Diwygiadau i'r prif Orchymyn 2. Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod. 3. Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol -
(b) nine members shall be appointed by the National Assembly for Wales; (c) one member shall be appointed by the Environment Agency.".
4.
Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol -
17. - (1) Subject to paragraph (2) below, the expenses of the committee, other than those which may be required to be incurred under section 17(2) of the Act, shall be chargeable jointly to the constituent councils in the respective amounts for each financial year set out in Column 3 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes. (2) In the event of the committee being required to incur any unforseen expenses which cannot be met by the amounts charged to the constituent councils under paragraph (1) above, then those unforseen expenses shall, in addition, be referred to the constituent councils for consideration and defrayed jointly by them in the respective percentages set out in Column 4 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes. (3) " The Committee may decide that the figures set out in Column 3 of the Schedule shall be increased for budgetary years from 2002/03 onwards by a figure not exceeding the annual rate of inflation, which rate shall in the event of disagreement by any constituent council be determined by the National Assembly for Wales."
5.
Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn). Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru. Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau'r Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid. Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a swm cyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi'i bennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen). Notes: [1] 1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o "the Minister". Dylid darllen y cyfeiriadau yn Neddf 1966 at awdurdod afonydd ynghyd â Deddf Dwê r 1973 (p.37) adran 33, Deddf Dwê r 1989 (p.15) adran 141 ac Atodlen 17, paragraff 1, a Deddf yr Amgylchedd 1995 adran 105 ac Atodlen 15, paragraff 2.back [2] Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd Deddf Dwê r 1989 adran 141 ac Atodlen 17, paragraffau 1(3) a 4(a), mae'r swyddogaethau a arferwyd ar wahân gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifennydd Gwladol ynglyên ag awdurdodau dwê r neu ardaloedd awdurdodau dwêr gwahanol i'w harfer gyda'i gilydd ganddyntback [3] Rh.S a G. 1926/1121 fel y'i amrywiwyd gan O.S. 1953/443, 1973/2203 a 1980/823.back
ISBN 0 11 090257 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 9 July 2001 |