Offerynnau Statudol 2001 Rhif 604 (Cy.27)

      Rheoliadau Taliadau Sn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Taliadau Sn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090179-7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 604 (Cy.27)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Sn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso.
2. Dehongli
3. Y pw er i wneud taliadau swn.
4. Sut i asesu lefelau swn.
5. Swm y taliadau swn.
6. Adegau pan na chaniateir gwneud taliadau swn.
7. Cartrefi cymwys.
8. Y cyfnod cymhwyso.
9. Y personau y gellir gwneud taliadau swn iddynt.
10. Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am daliadau swn.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Sn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "yr awdurdod" ("the authority") mewn perthynas â phriffordd yw'r awdurdod priffyrdd a adeiladodd neu a newidiodd neu sy'n bwriadu adeiladu neu newid y briffordd honno;

    mae i "cartref cymwys" ("eligible home") yr ystyr a nodir yn rheoliad 7;

    ystyr "cartref symudol" ("moveable home") yw  - 

    (a) carafán o fewn ystyr "caravan" fel y'i diffinir yn Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960[3] ac adran 13 o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 (gan anwybyddu darpariaethau is-adran (2) o adran 13)[4], neu

    (b) cwch preswyl;

    ystyr "Cod 1988" ("the 1988 Code") yw'r cyngor a'r cyfarwyddyd sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm technegol sy'n dwyn y teitl "Calculations of Road Traffic Noise" a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988);

    ystyr "cwch preswyl" ("houseboat") yw cwch neu strwythur tebyg sydd wedi'i ddylunio neu wedi'i addasu i'w ddefnyddio fel cartref;

    mae i "cyfnod cymhwyso" ("qualifying period") yr ystyr a nodir yn rheoliad 8;

    mesuriad yw "dB(A)" o lefel y pwysedd sn (pwysoliad "A") mewn desibelau sy'n cael ei dangos gan offer mesur sy'n cydymffurfio â Manyleb y Safon Brydeinig ar gyfer mesurydd lefel swn manwl-gywir a gyhoeddwyd ar 14 Medi 1967 o dan rif B.S. 4197:1967;

    ystyr "dyddiad cychwyn" ("commencement date") yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

    ystyr "dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw'r dyddiad yr oedd priffordd ar agor i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf neu, yn achos priffordd sydd wedi'i newid, y dyddiad yr oedd ar agor i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf ar ôl adeiladu'r newid;

    ystyr "gwaith perthnasol"("relevant works") yw'r gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd sy'n achosi'r sn sy'n arwain at ber i wneud taliad sn neu y disgwylir iddo ei achosi;

    lefel y swn mewn dB(A) yr eir y tu hwnt iddi am ddegfed ran o gyfnod o un awr yw "L10";

    cymedr rhifyddol pob lefel L10 yn ystod cyfnod o 0600 hyd at 2400 o'r gloch ar ddiwrnod gweithio arferol yw "L10 (18-awr)" ("L10(18-hour)");

    ystyr "lefel benodedig" ("specified level") yw lefel swn L10 (18-awr) o 68dB(A);

    ystyr "lefel sn gyffredinol" ("prevailing noise level") yw lefel y sn, wedi'i mynegi fel lefel L10 (18-awr), un metr o flaen yr un mwyaf di-amddiffyn o unrhyw ffenestr neu ddrws ar wyneb mwyaf diamddiffyn unrhyw gartref symudol sy'n cael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio unrhyw briffordd yn union cyn i waith adeiladu neu newid y briffordd ddechrau;

    ystyr "lefel sn berthnasol" ("relevant noise level") yw lefel y sn, wedi'i mynegi fel lefel L10 (18-awr), un metr o flaen yr un mwyaf diamddiffyn o unrhyw ffenestr neu ddrws ar wyneb mwyaf diamddiffyn cartref symudol sy'n cael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd berthnasol neu y disgwylir y bydd yn cael ei achosi ganddo;

    ystyr "newid" ("alteration") mewn perthynas â phriffordd yw newid yn lleoliad, lled neu lefel lôn gerbydau sy'n rhan o'r briffordd honno (heblaw drwy osod wyneb newydd arni) neu adeiladu lôn gerbydau ychwanegol wrth ochr lôn gerbydau sy'n bodoli eisoes neu uwch ei phen neu islaw iddi ac mae "newid" ("alter") ac "wedi'i newid" ("altered") i'w dehongli yn yr un modd;

    mae "priffordd" ("highway") yn cynnwys unrhyw ran o briffordd a'i ystyr yw priffordd neu ran o briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd fel y'i diffinnir yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980[5];

    ystyr "priffordd berthnasol" ("relevant highway") yw priffordd y digwyddodd y dyddiad perthnasol ar ei chyfer ar ôl 25 Medi 1990;

    mae i "taliad sn" ("noise payment") yr ystyr a nodir yn rheoliad 3(5).

Y per i wneud taliadau sn
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sn, mewn perthynas â chartref cymwys, ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu y disgwylir iddo achosi sn o'r fath, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.

    (2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn mae defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sn ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu disgwylir iddo achosi sn o'r fath  - 

    (3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd ar unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cychwyn, yn achosi sn ar lefel sydd, ym marn yr awdurdod, wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad cartref cymwys dros gyfnod di-dor o nid llai na chwe mis, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.

    (4) Pan ddaw priffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd o fewn ystyr adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980[
6] o fewn tair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd wneud taliad o dan baragraffau (1) neu (3) o'r rheoliad hwn mewn perthynas â chartref cymwys os byddai per i wneud hynny wedi codi petai'r briffordd wedi bod yn briffordd y gellid ei chynnal ar gost y cyhoedd ar y dyddiad perthnasol a phetai gwaith adeiladu neu newid y briffordd wedi'i gyflawni gan yr awdurdod priffyrdd hwnnw.

    (5) Cyfeirir at daliad o dan y rheoliad hwn fel "taliad sn" yn y Rheoliadau hyn.

Sut i asesu lefelau sn
     4. At ddibenion rheoliad 3(2) rhaid i'r lefel sn gyffredinol, y lefel sn berthnasol a'r cyfraniad effeithiol at y lefel sn berthnasol sy'n cael ei achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd neu y disgwylir iddo ei defnyddio gael eu hasesu yn unol â Chod 1988.

Swm y taliadau sn
    
5. Swm taliad sn yw'r swm y mae'r awdurdod yn penderfynu arno yn ôl ei ddisgresiwn ond ni chaiff fod yn fwy na £1,650.

Adegau pan na chaniateir gwneud taliadau sn
    
6. Os oes taliad sn wedi'i wneud mewn perthynas â chartref cymwys sy'n deillio o waith adeiladu, newid neu ddefnyddio priffordd, p'un ai o dan reoliad 3(1), neu o dan reoliad 3(3), ni chaniateir gwneud unrhyw daliad sn pellach mewn perthynas â'r cartref cymwys hwnnw sy'n codi o waith adeiladu, newid neu ddefnyddio'r briffordd honno oni bai bod y briffordd honno yn cael ei newid ar ôl hynny a bod per i wneud taliad sn mewn perthynas â'r cartref cymwys hwnnw yn codi yn sgil y newid hwnnw i'r briffordd neu ei defnyddio fel y'i newidiwyd felly.

Cartrefi cymwys
    
7.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn, mae cartref cymwys yn gartref symudol sydd, drwy gydol y cyfnod cymhwyso  - 

    (a) yn achos carafán, wedi'i lleoli'n gyfreithlon ar safle gwarchodedig o fewn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968[7];

    (b) yn achos cwch preswyl, wedi'i fwrio'n gyfreithlon neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho gydag unrhyw gydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer y lleoliad o dan sylw oddi wrth unrhyw awdurdod mordwyo, ymgymeriad harbyrau neu ymgymeriad camlesi sy'n gyfrifol am y dr y mae wedi'i leoli ynddo a chyda chydsyniad y person sy'n meddiannu unrhyw dir y mae wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd wrtho;

    (c) sydd wedi'i leoli yn y fath fan neu fannau fel bod rhyw ran ohono, ar ôl adeiladu neu newid y briffordd berthnasol, heb fod yn fwy na 300 metr o'r pwynt agosaf ar lon gerbydau'r briffordd honno.

    (2) Nid yw cartref symudol yn gartref cymwys os oedd yn gerbyd modur o fewn ystyr adran 185(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988[8] neu os oedd yn adeilad neu'n rhan o adeilad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso.

    (3) At ddibenion taliad sn sy'n codi o waith perthnasol nid yw cartref symudol yn gartref cymwys  - 

    (a) os cafodd ei feddiannu gyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol mewn perthynas â'r gwaith hwnnw;

    (b) os yw wedi'i leoli adeg gwneud cais am daliad sn, mewn man sy'n cyfateb, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r fan lle'r oedd unrhyw gartref cymwys arall, y mae taliad sn eisoes wedi'i wneud ar ei gyfer, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod cymhwyso mewn perthynas â'r taliad sn hwnnw, ac os yw'r taliad sn hwnnw yn deillio o'r un gwaith perthnasol.

Y cyfnod cymhwyso
     8.  - (1) Os oes taliad sn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd cyn y dyddiad cychwyn, y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad cychwyn yw'r cyfnod cymhwyso.

    (2) Os oes taliad sn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd un flwyddyn ar ôl, y dyddiad cychwyn neu o fewn un flwyddyn ar ei ôl, y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.

    (3) Os oes taliad sn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad cychwyn, y cyfnod sy'n dechrau un flwyddyn cyn y dyddiad perthnasol ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.

    (4) Os oes taliad sn yn cael ei wneud o dan reoliad 3(3) y cyfnod sy'n dechrau un flwyddyn cyn dechrau'r gwaith perthnasol ac sy'n dod i ben pan fydd y sn sy'n cael ei achosi gan y gwaith hwnnw wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad y cartref cymwys dros gyfnod di-dor o chwe mis yw'r cyfnod cymhwyso.

Y personau y gellir gwneud taliadau sn iddynt
    
9.  - (1) Dim ond i'r personau canlynol y gellir gwneud taliad sn  - 

    (2) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, mewn perthynas â chartref cymwys, fod yna fwy nag un person y byddai paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn awdurdodi gwneud taliad swn iddynt, caiff yr awdurdod, yn ôl ei ddisgresiwn, ddyrannu unrhyw daliad sn y mae'n penderfynu ei wneud rhwng y personau hynny ac, os yw'n gwneud hynny, ymdrinnir â thaliadau y mae'n eu gwneud i bersonau gwahanol o dan yr is-baragraff hwn at ddibenion rheoliad 5 fel un taliad o gyfanswm y taliadau hynny.

Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am daliadau sn
    
10.  - (1) Gall yr awdurdod ystyried cais am daliad sn os yw'n cael ei wneud yn ystod y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cymhwyso.

    (2) Rhaid i gais am daliad sn gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth ganlynol - 

    (3) Rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei lofnodi gan y ceisydd a rhaid iddo ymgorffori datganiad gan y ceisydd fod yr wybodaeth y mae'n ei chynnwys yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred y ceisydd.

    (4) Ni fernir bod cais o dan y rheoliad hwn wedi'i wneud oni bai ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn a'i fod yn ymgorffori'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (3) o'r rheoliad hwn ac ni fernir ei fod wedi'i wneud nes i'r awdurdod y bwriedir ei gyflwyno iddo ei gael mewn gwirionedd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi per i awdurdodau priffyrdd wneud taliadau o hyd at £1,650 i feddianwyr cartrefi symudol megis carafanau a chychod preswyl pan fydd sn sy'n cael ei achosi wrth adeiladu neu ddefnyddio ffyrdd newydd neu rai sydd wedi'u newid yn effeithio arnynt, neu pan fydd yn debyg o effeithio arnynt, i raddau sylweddol. Mae'r per i wneud Rheoliadau sy'n awdurdodi taliadau o'r fath i'w gael o dan Adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973, sydd wedi'i mewnosod gan baragraff 5(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Mae'r per i wneud taliadau o dan y Rheoliadau hyn yn gyfochrog â'r ddyletswydd i ddarparu inswleiddiad rhag sn mewn adeiladau neu i wneud taliadau grant yn lle hynny o dan Reoliadau Inswleiddio rhag Sn 1975 (O.S. 1975/1763 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/2000). Am resymau ymarferol ni ellir cymhwyso'r darpariaethau hynny at gartrefi symudol.

Gellir cael y memorandwm sy'n dwyn y teitl "Calculation of Traffic Noise" a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988) o Siop Lyfrau Oriel, 18-19 Heol Fawr, Caerdydd CF10 2BZ.

Gellir cael Safon Brydeinig 4197:1967 o unrhyw fan werthu sy'n cael ei gweithredu gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) neu drwy'r post o'r BSI yn 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.


Notes:

[1] 1973 p.26; mewnosodwyd adran 20A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 70 ac Atodlen 15, paragraff 5(1). Mae'r p er i wneud rheoliadau o adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973 wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672).back

[2] 1973 p.26.back

[3] 1960 p.62.back

[4] 1968 p. 52.back

[5] 1980 p.66.back

[6] 1980 p.66.back

[7] 1968 p.62.back

[8] 1988 p.52.back

[9] 998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090179-7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 19 April 2001