Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090175-4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 [1]. Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Diwrnod Penodedig 2. 30 Ionawr 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw adran 99 o'r Ddeddf i rym. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]). D. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 24 Ionawr 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym ar 30 Ionawr 2001. Mae adran 103(3) o'r Ddeddf yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y p er i bennu'r dyddiad pan ddaw darpariaeth nad yw'n cael ei dwyn i rym yn awtomatig gan y Ddeddf i rym. Mae adran 99 o'r Ddeddf yn ddarpariaeth y mae adran 103(3) yn gymwys iddi ac sy'n darparu -
(b) bod Atodlen 11 i'r Ddeddf i'w hychwanegu at Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Bydd hyn yn galluogi swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a gynhwysir yn Atodlen 11 i'r Ddeddf i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes: [1] 2000 p.37back
ISBN 0-11-090175-4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 18 April 2001 |